Crist ydyw'r Bugail mawr di-ball, Arweinia'r dall i dŷ; Dyddanu'r gwan eu meddwl mae, A'u llawenhau yn llu: A äi di, enaid, ar ei ol? Mae yn rhinweddol nerthol Naf; Fe'th dderbyn fel yr ydwyt, cred, I'w ganlyn, – dywed, Af! Pan elych trwy'r Iorddonen ddu, Cei lechu yn Ei law, Fe'th ddwg di, enaid llesg, i'r lan I'w nefol drigfan draw; Cei ganu'n llafar, gyda'r llu Sy'n llawenychu yn eu Naf, A âi i'w ganlyn, doed a ddel? O! d'wed yn uchel, Af. O! d'wed yn uchel, Af. :: Nac oeda, dywed, 'Af.'
Tonau [8686.8886]:
gwelir: |
Christ is the great unfailing Shepherd, Who leads the blind home; He comforts those whose thoughts are weak, With their joys as a host: Wilt thou, soul, go after him? He is a virtuous strong Master; He will receive thee as thou art, believe, To follow him, - say, I will go! When thou goest through the black Jordan, Thou shalt get to hide in his hand, He shall lead thee up, feeble soul, To the heavenly dwelling yonder; Thou shalt get to sing loudly, with the host Who are rejoicing in their Master, Wilt thou go to follow him, come what may? O say loudly, I will go! O say loudly, I will go! :: Do not delay, say, 'I will go.' tr. 2020 Richard B Gillion |
|