Cyd-ddringed ein meddyliau trist, Alaethus fryn Calfaria'n awr. Fry ar y groes canfyddwn Crist, Yn gwaedu mewn cyfyngder mawr. Ei draed a'i ddwylaw anwyl Ef, A hoeliwyd wrth y poenus bren; Ffrwd werthfawr, goch, effeithiol, gref, A lifai'n frwd o'i ystlys wen. Ond O, anfeidrol bwysfawr boen, Ei enaid cyfiawn, gwirion, cu, Pan ddygodd y drylliedig Oen, Ddigofaint Duw a'n camwedd ni. O! todded gwresog gariad Crist, Ein calon ni i'w garu'n awr, Gan dywallt trwy'n hysbrydoedd trist, Orfoledd maith a heddwch mawr.Benjamin Francis 1734-99
Tonau [MH 8888]: |
Let our sad thoughts climb together The sorrowful hill of Calvary now. Up upon the cross let us find Christ, Bleeding in great straits. His feet and his dear hands, Were nailed to the painful tree; A precious, red, efficacious, strong stream, Was flowing earnestly from his blessed side. But O, the immeasurable, weighty pain, Of his dear, righteous, innocent soul, When the broken Lamb bore The wrath of God and our transgression. O let the warm love of Christ melt Our hearts to love him now, By pouring through our sad spirits, Vast jubilation and great peace.tr. 2023 Richard B Gillion |
|