Cyfod, f'enaid, ar dy edyn, Cais dy etifeddiaeth rad, 'Mhell uwchlaw i'r cyfnewidiol, Yn dy enedigol wlad; Haul a lloer, a sêr ddiflanant, Daear, hefyd, ymaith ffŷ, O fy enaid hêd yn gyflym, Tua'th ddarparedig dŷ. Tua'r eigion 'r â'r afonydd, Ar eu taith bob munud awr; Tua'r haul y tỳn y gwreichion, Pan yn esgyn tua'r wawr: Felly'r enaid o Dduw aned, Gais gael gwel'd ei wynebpryd, 'Fyny'n gyson y mỳn fyned, Nes ei dod i'w fynwes glyd. Mwy nac wylwch bererinion; Cyrchwch beunydd at y nôd, 'Nol ar frys daw'ch Ceidwad tirion, Mewn gogoniant uwch yn rhôd, Ar y fyrder chwi gewch ganddo, Groesaw llòn i dŷ ei Dad, Holl ofidiau'r llawr a'n ango', Draw ar lànau'r nefol wlad.John Hughes 1776-1843 [Mesur: 8787D] |
Arise, my soul, on thy wings, Seek thy gracious inheritance, Far above the changeable, In thy native land; Sun and moon, and stars shall disappear, Earth, also, shall flee away, O my soul fly quickly Towards thy prepared house. Towards the ocean go the rivers, On their journey every minute of an hour; Towards the sun it draws the sparks, When ascending towards the dawn: Thus the soul born of God, Shall seek to get to see his countenance, Above constantly it wants to go, Until it comes to his cosy bosom. Weep no more, ye pilgrims; Set off daily toward the goal, Back hurriedly shall come your tender Saviour, In glory above the sky, Shortly ye shall get from him A cheerful welcome to his Father's house, All the griefs of the earth below shall be forgotten, Yonder on the shores of the heavenly land.tr. 2021 Richard B Gillion |
|