Cyfododd Crist yr Arglwydd! Y newydd rhown ar daen; Chwilfriwiodd rwymau'r beddrod, Er sicred oedd y maen; Gorchfygodd nerthoedd angau Ar fore'r trydydd dydd; Enillodd fuddugoliaeth, A dug y caeth yn rhydd. Cyfododd ef! cyfododd Er ein tragwyddol hedd; P'le mae dy golyn, angau, A'th fuddugoliaeth, fedd? Caethgudodd ef gaethiwed, Dug inni roddion rhad; A daeth i wawrio arnom Oleuni'r nefol wlad. Cyfododd ef! cyfododd! Agorodd byrth y nen; Esgynnodd mewn mawrhydi I'r llys tu fewn i'r llen; Ar orsedd ei ogoniant Teyrnasu mae yn awr; Y nefoedd gorfoledded, A llawenhaed y llawr.D Silvan Evans (Daniel Las) 1818-1903 Tôn [7676D]: Bala (Rowland H Pritchard 1811-87) |
Christ the Lord arose! Let us send abroad the news; He shattered the bonds of the tomb, Although the stone was secure; He overcame the powers of death On the morning of the third day; He won a victory, And set the captive free. He arose! He arose For our eternal peace; Where is thy sting, O death, And thy victory, O grave? He took captivity captive, He brought us free gifts; And the light of the heavenly land Came to dawn upon us. He arose! he arose! He opened the portals of the sky; He ascended in majesty To the court within the curtain; On the throne of his glory Reigning he is now; Let the heavens be jubilant And let the earth rejoice.tr. 2020 Richard B Gillion |
|