Cyn lledu lleni'r nef

1,(2),3,4.
(Tragwyddoldeb Duw)
Cyn lledu lleni'r nef,
  Na ffurfio llwythau'r llawr,
Cyn gosod ser i droi
  Yn yr eangder mawr,
Na llunio un creadur byw,
O dragwyddoldeb y mae Duw.

Cyn canu'n beraidd fwyn
  O'r ser boreol draw,
Na chael o Gabriel bêr
  Y delyn yn ei law,
Dedwyddwch perffaith, hedd didrai,
Oedd Ffynnon cariad yn fwynhau.

Mor fyr yw oesoedd maith
  Gerbron tragwyddol Fôd!
Ei oes heb fesur sydd,
  Diderfyn yw ei glod:
Mil o flynyddoedd maith, neu ddydd,
Yn debyg yn ei olwg sydd.

Pan gryno seiliau'r byd,
  Pan syrthio'r ser yn llu,
Y lleuad wen yn waed,
  A'r haul fel sachlen ddû,
Yr un fydd Ceidwad dynolryw,
Diddechreu a diddiwedd yw.
y mae Duw :: yr oedd Duw

Benjamin Francis 1734-99
 
priodolwyd hefyd i   |   attributed also to
 

Joseph Harris (Gomer) 1773-1825

Tonau [666688]:
Haddam (Lowell Mason 1792-1872)
Lovely (J D Edwards 1805-85)

gwelir:
Mor fyr yw oesoedd maith
Preswylfa gref yw Duw

(The Eternity of God)
Before spreading heaven's curtain,
  Or forming the tribes of the earth,
Before setting the stars to course
  In the great expanse,
Or fashioning a single living creature,
  From eternity is God.

Before the sweet, gentle singing 
  Of the distant northern stars,
Or sweet Gabriel got
  The harp in his hand,
Perfect happiness, un-ebbing peace,
  Was the Fount of love enjoying.

How short are the vast ages
  Before the eternal Being!
His age is without measure,
  Boundless is his praise:
A thousand long years, or a day,
Are similar in his sight.

When the foundations of the earth shake,
  When the stars fall as a host,
The white moon become blood,
  And the sun like black sacking,
The same will be the Keeper of humankind,
Without beginning and endless he is.
he is God :: he was God

tr. 2009 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~