[Chwi chwi / Chwy-chwi] ffynhonau'r bywyd gwir

(Bywyd yn yr anialwch - Rhan II)
Chwy-chwi, ffynhonau'r bywyd gwir,
Afonydd o bleserau pur,
Chwi lifwch dros yr anial dir -
  Fy enaid llesg ei wedd;
Chwi lenwch yr ëangder mawr -
Y nwydau dydd yn wâg yn awr
Ac yn hiraethu bob yr awr
  Am bleser ' draw i'r bedd.

Fe gaiff fy serch, fe gaiff fy mryd,
Ei lanw'n lân ar hyn o bryd,
Pob rhan yn llwyr o'm henaid drud
  A gaiff ei nefol ddawn;
Pob rhyw ddymuniad gaiff fwynhâd
Anfeidrol faith, anfeidrol râd,
'N ôl deffro yn y nefol wlad,
  Ac ar Dy ddelw'n llawn.

Pob hiraeth, pob sychedig ddawn,
Fydd marw mewn llawenydd llawn,
Ac enw gobaith
    mwy nis cawn,
  Nac eisiau byth, na thrai;
Ond rhyw bleserau maith di-lŷth,
Heb drai na therfyn iddynt byth
Yn sicr fel mynyddau syth,
  Gawn bellach i'w mwynhau.

Fy Nuw, fy Nuw, gyd Ei Hun,
Fydd fy anfeidrol gariad cun,
Llawenydd anchwiliadwy'n un,
  A chariad 'hono dardd:
Eangder o oleuni clîr;
Mwy disglaer nag o'r dwyrain dir;
Môr o bleserau perffaith pur,
  Gwrthrychau nefol hardd.
Chwy-chwy :: Chwi, chwi,

William Williams 1717-91

Tonau [886D]:
Barnsfield (William Roberts)
Beulah (alaw Gymreig)
Sardinia (<1869)

gwelir: Rhan I - Pa beth a wnaf fi yma'n byw

(Life in the desert - Part 2)
Ye fountains of the true life,
Rivers of pure pleasures,
Ye flow over the desert land -
  My soul of feeble condition;
Ye fill the great wideness -
The lusts of day empty now
And longing every hour
  For pleasure beyond the grave.

My affection shall get, my mind shall get,
Filled completely at this time,
Every kind totally of my precious soul
  Shall get its heavenly gift;
Every kind of wish shall get enjoyment
Of immeasurable extent, immeasurable grace,
After awaking in the heavenly land,
  And fully in thy image.

Every longing, every thirsty gift,
Shall die in full joy,
And the name of hope
    we shall never more get
  Nor ever want, nor ebbing away;
But some vast unfailing pleasures,
Without ebbing or end to them ever
Surely like straight mountains,
  We may henceforth enjoy.

My God, my God, with him himself,
Shall be my immeasurable dear love,
Unsearchable joy likewise,
  And love issuing from him:
The breadth of clear light;
More radiant than from the eastern land;
A sea of pure, perfect pleasures,
  Beautiful, heavenly objects.
Ye :: Ye, ye,

tr. 2020 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~