Coron hardd ro'ist/roist ar y flwyddyn

(Coron y flwyddyn)
Coron hardd ro'ist
    ar y flwyddyn,
  Coron o ddaioni llawn,
Mor amrywiol yw'r bendithion,
  Ynddi yn cyfarfod gawn:
    Delw'r nefoedd,
  Yn ymddangos arni sydd.

Ti ddyferaist frasder maethlawn,
  Ar ein daear, dirion Dad;
Cnwd ein meusydd alwai arnom,
  I'th glodfori drwy y wlad:
    O na roddem,
  Fel y dylem, glod i'th ras!

Ymwregysu wnaeth ein bryniau
  Â hyfrydwch pur yn nghyd,
Bloeddiai'r holl ddyffrynoedd prydferth,
  O dan orchudd tew o ŷd,
    Gan roi moliant,
  I Dy Enw mawr Dy Hun!

Byth i'r Tad y b'o gogoniant,
  Clod a moliant, parch a bri,
Ac i'r Mab a'r Sanctaidd Yspryd,
  Heb wahan yn Un a Thri;
    Byth heb ddiwedd,
  Fel o'r dechreu,
      seinia'u clod.
ddyferaist :: ddiferaist
frasder :: fraster
maethlawn :: maelon
alwai :: eilw
drwy y wlad :: trwy'r holl wlad
prydferth :: ffrwythlon
I Dy Enw :: Fyth i'th enw

Aberth Moliant 1875

Tonau [878747]:
Hanslope (<1875)
Highbury (<1875)

(The crown of the year)
A beautiful crown thou didst put
    on the year,
  A crown of full goodness,
How various are the blessings,
  That we may meet in it:
    The image of heaven,
  Is appearing in it.

Thou didst drip nourishing fatness,
  On our earth, tender Father;
The crop of our fields would call upon us,
  To extol thee throughout the land:
    O that we would give,
  As we should, acclaim to thy grace!

Gird themselves did our hill
  With pure beauty altogether,
All the beautiful valleys would shout,
  Under the thick covering of corn,
    While giving praise,
  To thy own great name!

Forever to the Father be glory,
  Acclaim and praise, reverence and renown,
And to the Son and the Sacred Spirit,
  Without division as One and Three;
    Forever without end,
  As from the beginning,
      sound thou their acclaim.
::
::
::
would call :: call
throughout the land :: throughout the whole land
beautiful :: fruitful
To thy ... name :: Forever to thy ... name

tr. 2020 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~