Crist yw fy nghysgod - Crist a'i Iawn, - Crist yn ei ras anfeidrol lawn; Y graig sydd uwch na mi yw Ef, - Y graig dýr rym pob storom gref. Yn ymyl Crist, tra byddwyf byw Caf ganu, Craig yr oesoedd yw. Nid ofnaf waetha'r byd yn awr, Na holl derfysgoedd daear lawr; Ger llaw yr Iawn dystawa'u twrdd, Caf finnau ganu heb eu cwrdd. Crist yw fy nghysgod, digon yw I'm dwyn i dawel hedd fy Nuw. Disgleirdeb gyffry fyd i fraw Fydd fy ngoleuni 'r dydd a daw; Ond gweled Crist, fy noddfa wir, Gaf yn ei lewyrch, tanbaid clir. Yn nydd y farn, - ofnadwy ddydd, Fy Nghraig a'm Hiachawdwriaeth fydd.William Griffith Owen (Llifon) 1857-1922 Tôn [88.88.88]: Rhyd y Groes (T D Edwards 1874-1930) |
Christ is my shelter - Christ and his Atonement, - Christ in his immeasurable full grace; The rock that is higher than I is he, - The rock that breaks the force of every strong storm. Beside Christ, while ever I live I shall get to sing, the Rock of ages is he. I shall not fear the worst of the world now, Nor all the tumults of earth below; Near by the Atonement their clamour falls silent, While I may sing without meeting them. Christ is my shelter, sufficient he is To lead me to my God's quiet peace. Radiance that agitates a world to terror Shall be my light on the coming day; Only to see Christ, my true refuge, I shall have in his gleam, a clear blaze. In the day of judgment, - a terrible day, My Rock and my Salvation he shall be.tr. 2023 Richard B Gillion |
|