Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw, Ni syfl o'i le, nid ie a nage yw; Cyfamod gwir, ni chyfnewidir chwaith; Er maint eu plâ, daw tyrfa i ben eu taith. Cyfamod rhâd, o drefniad Un yn Dri, Hên air y llŵ, a droes yn elw i ni; Mae'n ddigon cry' i'n codi i fyny'n fyw, Ei rym o hyd, yw holl gadernid Duw. Cyfamod pur, ni n'widir yn y ne', I ddamnio'r plant, os llithrant hwy o'u lle; Fe saif ei dir, ni syflir byth mo'i sail, Mae'n ammod hedd, ar rinwedd Adda'r ail. 'Does bwlch yn hwn, fel modrwy'n grwn y mae, A'i glwm mor glòs, heb os, nac oni bae; Nid all y plant ddim gwerthu eu meddiant mwy, Mae gan Dduw gylch, a'u deil, o'u hamgylch hwy. Cyfamod llawn, da, uniawn, ydyw oll, Ei seinio wnaed a'i seilio â gwaed digoll: Fe saif ei sail byth yn ddiogel dda; Does dim mewn bod, mae'n hynod, a'i gwanha. Fe syrthiodd pen cyfamod Eden, do, Ni safai'n syth, bydd tristwch byth o'r tro; Ond saif yr Ail, a'i gadarn sail ni syrth, Gwnaed uffern gas ei phwrpas gyda'i phyrth. Tra safo'n siwr y Pen-amodwr mawr, Y plant nid ânt, ni lithrant byth i lawr; Er mynd i'r bedd, a'u gwedd yn ddigon gwael, Dwed wrth eu llwch, 'Dowch, codwch, rhaid eich cael.' Cyfamod cry', pwy ato ddyry ddim? Nid byd na bedd all dorri'i ryfedd rym; Diysgog yw hên arfaeth Duw o hyd, Nid siglo mae fel gweinion bethau'r byd. Er llithro i'r llaid a llygru defaid Duw Cyfamod sy i'w codi i fyny'n fyw, A golchi i gyd eu holl aflendid hwy, A'u dwyn o'r bedd heb ddim amhuredd mwy. Trwy gamwedd un daeth barn ar bob dyn byw, Rhoes Adda ei had, oll dan gondemniad Duw, Felly'r un modd, trwy Iesu y dey odd dawn I gyfiawnhad, ceiff llu adferiad llawn. Crist yw ein gwledd, ein hedd a'n cyfiawnhad, Ffordd fywiol rwydd i'n dwyn i wydd ei dad; Ei arogl ef sy'n llenwi'r nef yn llawn, Pereiddio mae weddiau ffiaidd iawn. Gwna fi fel pren planedig, O fy Nuw, Yn îr ar làn afonydd dyfroedd byw; Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy, Yn ffrwytho dan gawodydd marwol glwy'. Pa'm 'r ofnwn mwy rhag colyn angau du, Can's angau yw'r porth i'r ddinas freiniol fry; Gorchfygu hwn fy Iesu gwn a wnaeth, Yn llaw fy Nuw ni arswydaf rym ei-saeth. Pan elwy' 'i dre, i'r hyfryd gorlan fry, Ni chrwydra' i mwy oddiwrth fy Mugail cu; Wrth gofio'r daith, a'i holl ffyddlondeb ef, Mi seinia 'i glod i entrych nef y nef. Ar dir na mor ei debyg gwn nad oes, Seraphiaid pur ni thraethant byth mo'i oes: Dringo a wnaf, trwy nerth ei ras o'm gwae, Nes caffwy'n glir ei weled fel y mae. cyfammod cadarn Duw :: i gyd o drefniad Duw codi i fyny'n :: c'odi 'fyny'n 'Does bwlch yn hwn :: Cyfammod gwn A'i glwm mor glòs :: A'i g'lymau'n glos oni bae :: oni b'ai Nid byd na bedd all dorri :: 'D eill byd na bedd mo dòri amhuredd :: anwiredd
1-9 : Edward Jones 1761-1829
Tonau:
gwelir: |
Covenant of peace, steadfast covenant of God, Not shifting, nor 'yes and no' is it; Covenant of truth, not to be exchanged either; Although great their plague, a multitude will come to the end of their journey. A free covenant, prepared by the One in Three, The old word of the oath which he turned into gain for us; It is sufficiently strong to raise us up alive, It's strength still is all God's steadfastness. A pure covenant, not to be changed in heaven, To condemn the children, if they slip from their place; Fe saif ei dir, ni syflir byth mo'i sail, Mae'n ammod hedd, ar rinwedd Adda'r ail. There is no breach in this, like a round ring it is, With its knot so close, without if, or unless; The children cannot sell their possession any more, God has a circle, which keeps them, around them. A covenant full, good, upright, it is all, Sounded it was and founded with unfailing blood: Its foundation stands forever safely good; The is nothing existing, it is remarkable, that weakens it. The head of Eden's covenant fell, it did, It did not stand straight, there will be sadness forever from the time; But the Second will stand, and its secure foundation will not fall, Hated hell made its purpose with its portals. While ever the great Chief-covenant-maker stands secure, The children will not go, nor ever slide down; Although going to the grave, and their condition sufficiently poor, He says to their dust, 'Come, arise, you must be had.' A strong covenant, who to it will add anything? Neither the world nor the grave can break its wonderful force; Immovable is the old purpose of God still, Not shaking is it like the weak things of the world. Although sliding to the mire and becoming corrupt are the sheep of God It is the covenant which raises them up alive, And washes all of their whole uncleanness, And leads them from the grave without any more impurity. Through the trespass of one came judgment on every living man, Adam put all his seed under God's condemnation, Thus likewise, through Jesus came the gift To justify, a host will get full revival. Christ is our feast, our peace and our righteousness, A generous, living way to bring us into his Father's presence; 'Tis his own perfume that is filling heaven fully, It is sweetening very detestable prayers. Make me like a planted tree, O my God, Fresh on the bank of the rivers of living waters; Rooted widely, and its leaves never more withering, Bearing fruit under the showers of a mortal wound. Why should I fear anymore the sting of black death, Since death is the portal to the royal city above; Overcome this my Jesus I know he did, In the hand of my God I shall not be terrified by its arrow's force. When I go home to the delightful fold above, I shall not wander anymore away from my dear Shepherd; Remembering the journey, and all his faithfulness, I shall sound his acclaim to the vault of heaven's heaven. On land nor sea his like I know there is not, Pure seraphim they shall never tell out his age; Climb I shall, through the strength of his grace from my woe, Until I get clearly to see him as he is. steadfast covenant of God :: all from the arrangement of God :: There is no breach in this :: A covenant I know With its knot so close :: With its knots close :: :: impurity :: untruth tr. 2009,23 Richard B Gillion |
|