Gyfrannwr pob bendithion Ac awdur deall dyn, Gwna ni yn wir ddisgyblion I'th annwyl Fab dy hun; Drwy bob gwybodaeth newydd Gwna ni'n fwy doeth i fyw, A gwisg ni oll ag awydd Gwas'naethu dynol-ryw Rho inni ysbryd gweddi Rho inni wefus bur, Rho gymorth mewn caledi I lynu wrth y gwir; Yng nghynnydd pob gwybodaeth Glanha, cryfha ein ffydd; Ymhob rhyw brofedigaeth Dysg inni rodio'n rhydd. O Iesu, a fu farw Yn ieuanc ar y groes Dod arnom ni dy enw Yn awr ym more oes; Dy air fo yn ein calon Dy Ysbryd yn ein gwaith A choron pob gobeithion Dy gwrdd ar ben y daith.Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd 1921
Tonau [7676D]: |
Supplier of all blessings And author of man's understanding, Make us true disciples For thine own beloved Son; Through every new knowledge Make us more wise to live, And clothe us all with eagerness To serve human-kind. Give to us a spirit of prayer Give to us a pure lip, Give help in hardship To stick to the true; In the increase of every knowledge Cleanse, strengthen our faith; In every kind of trial Teach us to walk freely. O Jesus, who died Young on the cross, Put upon us thy name Now in the morning of age; Thy word be in our heart, Thy Spirit in our work, And the crown of all hopes - Meeting thee at our journey's end.tr. 2024 Richard B Gillion |
|