Cyfyngder mwya'n Prynwr rhad Oedd colli gweled gwedd y Tad, Pan lefodd ar ben Calfari, "Eloi, lama, sabachthani!" O! feiau mawr, beth all'sech fwy Na rhoddi i Frenin nefoedd glwy'? Lladdasoch ef; fe drodd y rhod, Mae dydd eich dial chwithau'n dod. Dirgelwch o anfeidrol ryw I'm Iesu farw ac yntau'n Dduw! Mae'n bleser gan angylion nef Fyfyrio ar ei angeu ef. Dyma lle bydd fy nhrigfan i, O fewn i glwyfau 'Mhrynwr cu; Y man nas tyr euogrwydd trwy, Y man nas meiddia Satan mwy.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Cod d'olwg f'enaid fynu fry Does arnaf eisiau yn y byd Fy enaid cwyd dy olwg fry Gofyniad nefoedd faith ei hun Wrth edrych Iesu ar dy groes |
The greatest distress of our gracious Redeemer Was losing sight of the Father's face, When he cried on the summit of Calvary, "Eloi, lama, sabachthani!" O great faults, what could ye more Than give to the King of heaven a wound? Ye slew him; the sky turned, The day of your own retribution is coming. A mystery of an immeasurable kind To me that Jesus should die and he God! It is a pleasure for the angels of heaven To meditate upon his death. Here is where my dwelling shall be, Within the wounds of my dear Redeemer; The spot that guilt shall not break through, The spot that Satan shall never more claim.tr. 2020 Richard B Gillion |
|