Cariad Crist a phechod Sion
Pechod yma cariad acw

(Cariad Crist)
Cariad Crist a phechod Sion,
  Bwyswyd yn y glorian fawr;
Ac er trymed oedd y pechod,
  Cariad bwysodd hyd y llawr;
    'Gair gorphenwyd,
  Wnaeth i'r glorian bwysig droi.

Ar ei gariad boed fy meddwl,
  Am ei gariad boed fy nghân,
Dyged swn ei ddioddefaint
  Fy serchiadau oll yn lân:
    Mae ei gariad,
  Uwch y clywodd neb erioed.

            - - - - -
("Gorphenwyd.")
Pechod yma, cariad acw,
  Bwyswyd yn y gloriau fawr;
Ac er trymed ydoedd pechod,
  Cariad bwysodd hyd y llawr:
    Y gair "Gorphenwyd,"
  Wnaeth i'r gloriau bwysig droi.
William Williams 1717-91

Tôn [878747]: Judgment (<1835)

gwelir:
  Arnat Iesu boed fy meddwl
  Ffordd nid oes o waredigaeth
  Nis gall dysgedigion doethaf
  O na bai cystuddiau f'Arglwydd

(The love of Christ)
The love of Christ and the sin of Zion,
  Were weighed in the great scales;
And despite how heavy was the sin,
  Love weighed down to the ground;
    The word "It is finished",
  Made the weighty scales turn.

On his love be my thought,
  About his love be my song,
Let the sound of his suffering draw
  All my affections completely:
    His love is
  Above anything anyone ever heard.

               - - - - -
("It is finished.")
Sin here, love there,
  Weighed in the great scales;
And despite how heavy was sin,
  Love weighed down to the ground:
    The word, "It is finished,"
  Made the weighty scales turn.
tr. 2015,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~