Cenwch emyn bach i mi, Un â'i lond o gariad cu, Am y Gŵr fu ar y pren Drosof fi yn gwyro'i ben. Cenwch emyn bach i mi, Cenwch emyn bach i mi, Emyn bach, emyn bach, Cenwch emyn bach i mi. Cenwch emyn bach i mi Un yn sôn am Galfari, Am y gwaed ac am yr Iawn Roddwyd drosom un prynhawn. Cenwch emyn bach i mi Am y Graig sydd uwch y lli, Craig a roed i blant y llawr, Heria storm yr olaf awr. Cenwch emyn bach i mi Gyda'r hen emynau lu Wnaeth i dyrfa lawer awr Deimlo'r nefoedd ar y llawr. Cenwch emyn - cenwch un Cyn fy mynd i'm holaf hun; Cenwch un i leddfu su Murmur dwfn y dyffryn du. Cenwch emyn uwch fy medd, Hyfryd felys emyn hedd; Llonnaf dant y ddwydd lu, Ddysgwyd ar ein daear ni.T Twynog Jeffreys (Tawenog) 1844-1911 Tôn [7777+7747]: Emyn Bach (T Coleshill Jones) |
Sing a little hymn to me, One that is full of dear love, About the Man who was on the tree For me bowing his head. Sing a little hymn to me, Sing a little hymn to me, A little hymn, a little hymn, Sing a little hymn to me. Sing a little hymn to me One mentioning Calvary, About the blood and about the Ransom Given for us one afternoon. Sing a little hymn to me About the Rock that is above the flood, A Rock given to the children of earth, To challenge the storm of the last hour. Sing a little hymn to me With the host of old hymns That the throng did many an hour Feel heaven on the earth. Sing a hymn - sing ye one Before I go to my last sleep; Sing one to ease the hum The deep murmur of the black vale. Sing a hymn above my grave, A delightful sweet hymn of peace; The happy host's most cheerful string, Learned on our earth.tr. 2018 Richard B Gillion |
|