Cenwch i'r Arglwydd ac iawn fydd
I'r Arglwydd cenwch ac iawn fydd

(Salm CXLIX - Y saint yn gorfoleddu yn Nuw)
1,(2,(4));  1,3,4.
Cenwch i'r Arglwydd, ac iawn fydd,
  Ryw ganiad newydd ryfedd;
A chlywer yn
    nghyn'lleidfa'r saint,
  Ei fawrfraint a'i orfoledd.

Boed Isräel lawen a ffraeth
  Yn Nuw a'i gwnaeth yn ddibrin;
A byddant hyfryd, blant Seion,
  Yn Nuw, eu tirion Brenin.

I'w saint y bydd gorfoledd iawn
  Mewn cyflawn lân ogoniant;
Ac y'ngorphwysfa'r nefoedd wen
  Heb orphen byth y canant.

Dyma'r glan ardderchowgrwydd sydd
  I'w saint y sydd yn credu:
Clodforwch oll yr Arglwydd nef,
  O molwch ef am hynny.

            - - - - -

I'r Arglwydd cenwch, ac iawn fydd,
  Ryw ganiad newydd rhyfedd;
A chlywer
    y'nghyn'lleidfa'r saint
  Ei fawr-fraint a'i orfoledd.

Boed Israel lawen iawn a ffraeth
  Yn Nuw, a'i gwnaeth yn ddibrin;
A meibion Sïon hyfryd fon'
  Yng Nghrist, eu tirion Frenhin.

O herwydd hoffa'r Arglwydd Iôn
  Ei bobol cyfion odiaeth;
A gwisg y llednais sy'n y llwch
  A harddwch iechydwriaeth.

I'w saint y bydd gorfoledd iawn
  Mewn cyflawn lân ogoniant;
Ac y'ngorphwysfa'r nefoedd wen
  Heb orpben byth y canant.

Yr ardderchogrwydd hyn a fydd
  I'w seintiau sydd yn credu;
Clodforwch oll yr Arglwydd nef,
  A molwch ef am hynny.
Edmwnd Prys 1544-1623

Tonau [MS 8787]:
    Cemmaes (John Williams 1740-1821)
    Mary (John Ambrose Lloyd 1815-74)
    Sabbath (John Williams 1740-1821)

(Psalm 149 - The saints rejoicing in God)
 
Sing to the Lord, and truly there shall be
  Some new, wonderful song;
And to be heard in
    the congregation of the saints, is
  His great privilege and his jubilation.

Let Israel be joyful and eloquent
  In God who makes him prosperous;
And they shall delight, the children of Zion,
  In God, their gentle Kind.

To the saints let true jubilation come,
  And this full of glory;
And in their beds, in a joyful manner
  And in their rooms, they shall sing.

Here is the excellence which is
  For his saints who are believing:
Extol ye all the Lord of heaven,
  O praise him for this.

                  - - - - -

To the Lord sing ye, and truly there shall be
  Some new, wonderful song;
And to be heard in the
    congregation of the saints, is
  His great privilege and his jubilation.

Let Israel be very joyful and eloquent
  In God, and his work proserous;
And may the sons of Zion be
  In Christ, their gentle King.

Since the Sovereign Lord is extremely
  Fond of his righteous people;
And dresses the meek who are in the dust
  With the beauty of salvation.

For his saints there shall be true jubilation
  In full, pure glory;
And in the resting-place of bright heaven
  Without rest forever they shall sing.

This excellence shall be
  For the saints who are believing;
Extol ye all the Lord of heaven,
  And praise ye him for this.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~