drylliedig o galon; ac efo a geidw y rhai briwedig o ysbryd." Salm xxxiv. 18) Chwi, â'ch bronnau yn friwedig, Dan eich beichiau'n soddi i lawr, Â'ch calonau yn ddrylliedig Dan drwm wasgfa cystudd mawr, - Am bechodau'n athrist wylo Dagrau heilltion yn ddi drai, Dan wan-obaith blin yn gwywo Pan i'ch cof daw llawer bai, - Pan y tybiwch fod yr Arglwydd Wedi'ch gadael oll yn llwyr; Etto, clywch, eich gostyngeiddrwydd Ef a'i gwêl ac ef a'i gŵyr: Y mae'n agos, gwir ei eiriau, Attoch chwi, â'ch calon donn, - Yn agosach fil o weithiau Nâg at blant llawenydd llon. Puro'r fron â dw'r cystuddiau A wna Duw dros ronyn bach; Ond ar fyr fe sych eich dagrau, Ac fe'ch dwg i'r nef yn iach: Yna myrdd o lawen-gerddi Fydd am bob ochenaid drist, Yn hoff deyrnas y goleuni, Gyda'r Tad a chyda Christ.Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846 Gwinllan y Bardd 1831 [Mesur: 8787D] |
broken-hearted; and he will keep those who are bruised in spirit." - Psalm 34:18) Ye, with bruised breasts, Under your loads sinking down, With your hearts broken Under the heavy pressure of great affliction - For sins sadly weeping Salty tears unebbingly, Under grievous lack of hope wilting When to your memory come many a fault, - When ye suppose that the Lord Has left you all completely; Yet, hear ye, your humbling He sees and he knows: He is near, true his words, To you, with your beating heart, - A thousand times nearer Than to cheerful children of joy. Purifying the breast with the water of afflictions Does God for a little while; But shortly he will dry your tears, And he will bring you to heaven whole: There a myriad of cheering verses There shall be for every sad groan, In the lovely kingdom of light, With the Father and with Christ.tr. 2016 Richard B Gillion |
|