Clywch yr udgorn fel mae'n seinio

Clywch yr udgorn fel mae'n seinio
  Uchel iawn trwy'r
      byd mae'i lef;
Iesu Grist sy'n galw trwyddo,
  Bechaduriaid ato Ef;
Doed y byd i gyd i'w garu,
  Llwyr orchfygu wnelo Ef;
Tyred, Arglwydd! i deyrnasu
  Ar bob enaid dan y nef.

Marchog, Iesu yn llwyddianus,
  Gwisg dy gleddyf ar dy glun;
Achub ddynolryw truenus,
  Dwg hwy eilwaith ar dy lun:
I dy weision dyro allu
  I gyhoeddi'th gariad mawr,
Fel y delo'r byd i gredu,
  Ac i'th garu ar y llawr.
1: Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845
2: William Williams & John Hughes

[Mesur: 8787D]

gwelir:
  Dyma'r dyddiau wedi gwawrio
  Marchog Iesu yn llwyddiannus
  Tyred Arglwydd tyr'd yn fuan (Dyro'n helaeth ...)

Hear ye the trumpet as very loudly
  Throughout the world
      its voice is sounding;
Jesus Christ is calling through it,
  Sinners unto himself;
Let all the world come to love him,
  Completely overcome may he do;
Come, Lord, to reign!
  Over every soul under heaven.

Ride, Jesus, successfully,
  Wear thy sword on thy thigh;
Save wretched humankind,
  Bring them again after thy image:
To thy servants give power
  To publish thy great love,
That the world may come to believe,
  And to love thee on the earth.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~