Creawdwr a'n Cynnaliwr ni
Ein Crëwr a'n Cynnaliwr ni

(Y flwyddyn 1828)
Creawdwr a'n Cynnaliwr ni,
  O'i fawr haelioni a lanwodd
Ein tir âg ŷd, a hyfryd hin,
  Yn rhwydd, i'w drin a roddodd.

Mae cnwd ein daear gwedi d'od
  Yn barod i'n 'sguboriau,
Yn ddefnydd bara
    ein gwala gwir,
  Ddigonedd i'n ceginau.

Gallasai Duw roi
    gwres yr ha',
  A difa pob rhyw dyfiant,
Na f'asai gobaith bara i'w gael,
  Ond moddion gwael i'n meddiant.

Bygythiodd ddifa defnydd da,
  Ein bara â hîn wlybyrog;
Ond arbed etto hyd yn awr,
  Wnai'n Llywydd mawr galluog.

Moliannwn enw'n Harglwydd da,
  Am gael ein bara'n bur-iach;
O down yn unfryd dan y ne',
  I'w garu E'n rhagorach.

Dysg in' ddefnyddio'n hymborth iach,
  Mwy bellach yma'n bwyllig,
I garu'n Duw, ein cywir Dad,
  A'n Ceidwad bendigedig.

Mae'n hynod deilwng yn ei dŷ
  I'n ganu i'w ogoniant;
Mawl i ei enw mawr ei hun,
  Sy'n perthyn am ein porthiant.
Creawdwr a'n :: Ein Crëwr a'n

Edward Jones 1761-1836
Cofiant Edward Jones 1839

[Mesur: MS 8787]

(The year 1828)
The Creator and our Upholder,
  Of his great generosity has filled
Our land with corn, and lovely weather,
  Abundantly, to treat what he has given.

The crop of our earth has come
  Already into our barns,
As the substance of the bread
    of our true plenty,
  A sufficiency for our kitchens.

God could have given
    the heat of the summer,
  Which devours every kind of growth,
There would be no hope of bread to be got,
  But poor medicine for our possession.

It threatened to devour the good substance
  Of our bread with with rainy weather;
But save again upto now,
  Did the great, powerful Governor.

Let us praise the name of our good Lord,
  For getting our bread purely healthy;
O let us come in one mind under heaven,
  To love him all the more.

Teach us to use the healthy provision,
  Evermore here with consideration,
To love our God, our true Father,
  And our blessed Saviour.

He is remarkably worthy in his house
  For us to sing to his glory;
Praise to his own great name,
  Is fitting for our nourishment.
The Creator and our :: Our Creator and our

tr. 2016 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~