Cydunwn bawb i foli Duw
Yn filoedd de'wn i foli Duw

1,2,3,4,6,(7);  1,2,4,6,7;  1,2,(5),6.
(Dydd yr Arglwydd)
Cydunwn, bawb, i foli Duw, -
  Ei ŵyneb heddiw ceisiwn;
Cydwleddwn gyda'i
    annwyl blant,
  A'i foliant byth dadganwn.

Hwn ydyw'r dydd a wnaeth ein Duw,
  Trown ninnau heddiw'n camre,
Awn ger ei fron a llawen fryd,
  Gan barchu'r hyfryd fore.

Santeiddiodd Duw y seithfed dydd,
  I ni gael budd ysbrydol:
Gwybodaeth gawn o'i gyfraith lān,
  A gwir ddyddanwch nefol.

Y sawl a ddelo, dedwydd yw,
  I deml Duw'n gyfanedd;
Mae un dydd yma'n llawer gwell
  Na mil yn mhabell gwagedd.

Gorchfygodd Crist bob gelyn cryf,
  Yn awr fe dŷf ei Deyrnas;
Cawn byth gyfiawnder
    pur a hedd,
  A mawr orfoledd addas.

Cawn yno bob dymunol ddawn,
  Cawn Dduw yn llawn trugaredd;
A'i Ysbryd i'n cryfhau bob pryd,
  Yn fwyfwy hyd y diwedd.

Awn felly ymlaen
    o nerth i nerth,
  Yn brydferth nes cael dyfod,
I foli Duw, a llawen floedd,
  Yn entrych nefoedd uchod.
Cydunwn, bawb, :: Yn filoedd de'wn
Trown ninnau heddiw'n camre :: A gwerthfawr ydyw'r oriau
Awn :: Down
berchi :: barchi
Gwybodaeth gawn :: Gwybodaeth cawn

efel. Benjamin Francis 1734-99
7: ? Thomas William 1761-1844

Tonau [MS 8787]:
Bryn Meini (T Hopkin Evans 1879-1940)
  Bryn-y-Coed (R G Owen 1869-1930)
Brynhyfryd (alaw Gymreig)
Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98)
  Gwynfryn (Tom Carrington 1881-1961)
Oldenburg (J H Schein 1568-1630)
Paradwys (Rees Williams 1846-1934)

gwelir:
  Chwythed yr awel deneu lem
  Hwn ydyw'r dydd a drefnodd Duw
  Hwn ydyw'r dydd a wnaeth ein Duw
  Sancteiddiodd Duw y seithfed dydd

(The Lord's Day)
Let us all unite to praise God, -
  His face today let us seek;
Let us feast together
    with his dear children,
  And his praise forever let us express.

This is the day our God has made,
  Let us turn today our steps,
Let us go before him with a cheerful heart,
  While respecting the delightful morn.

God sanctified the seventh day,
  For us to get spiritual benefit:
Knowledge we may get of his holy law,
  And true, heavenly comfort.

Those who come, happy are,
  To the temple of God as a habitation;
One day her is much better
  Than a thousand in the tent of vanity.

Christ overcame every strong enemy,
  Now his Kingdom will grow;
We may ever get pure
    righteousness and peace,
  And worthy, great, rejoicing.

We may get every desirable gift,
  We may get God in full mercy;
And his Spirit to strengthen us every time,
  More and more until the end.

Let us go forward then
    from strength to strength,
  Beautifully until we get to come
To praise God, with a joyful shout,
  In the fault of heaven above.
Let us all unite :: In thousands let us come
Let us turn today our steps :: And precious are the hours
Let us go :: Let us come
::
::

tr. 2014,17 Richard B Gillion

 
Come let our voices join to raise

Come let us lift our voices high

This is the day the Lord hath made

Isaac Watts 1674-1748

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~