Cyfiawnder difrycheulyd Duw

(Cyfiawnder Duw - Gen. vii, 14—24; xix, 24,25.)
Cyfiawnder difrycheulyd Duw
I euog ddyn arswydus yw,
  Dychrynllyd iawn ei wedd;
O'i flaen, dan grynu, myrdd a ddaw,
A'u henaid llwm yn llawn o fraw,
  Pan dòrir rhwymau'r bedd.

Cyfiawnder, wrth amddiffyn hawl
Gorseddfainc lân gwir wrthddrych mawl,
  Ddystrywiodd yr hen fyd;
Gan rwygo pyrth y dyfnder mawr,
A gwlawio'n dost o'r nef i lawr
  Gawodydd dwyfol lid.

Gomorra a Sodoma fras,
Lle trigai gwrthwynebwyr gras,
  Deimlasant soriant Duw;
Y brwmstan gwyllt yn ddiluw tân
Lwyr losgai'r cwbl oedd o'i fla'n,
  Heb adael modd i fyw.

Pan gaw'd Tywysog mawr y nen
Yn lle troseddwyr ar y pren,
  Cyfiawnder ddaeth i'r lle;
Deffrôdd ei gleddyf, llidiog wedd,
Gan daro'r Bugail hyd y bedd,
  A mynu iawn i'r Ne'.

Os nad arbedwyd addfwyn Oen,
Rhag dirfawr ac angeuol boen,
  Beth ddaw o anwir fyd?
Fy enaid ffo at Grist â'th loes,
Cai lechu'n dawel dan ei groes,
  Rhag pob dinystriol lid.
Casgliad Joseph Harris 1845

Tonau [886D]:
    Chatham (<1825)
    Hinton (<1825)

(God's Righteousness - Gen. 7:14—24; 19:24,25.)
The spotless righteousness of God
To guitly man is horrifying,
  Very alarming its appearance;
Before him, trembling, a myriad shall come,
With their bare souls full of terror,
  When the bonds of the grave are broken.

Righteousness, while defending the right
Of the holy judgment seat
    a true object of praise,
  Destroyed the old world;
By rending the portals
    of the great deep,
And raining sorely down from heaven
  Showers of divine wrath.

Rich Sodom and Gomorrah,
Where dwellt opponents of grace;
  They felt the indignation of God;
The wild brimstone as a devouring fire
Completely burning all that was before it,
  Without leaving any way to live.

When the great Prince of heaven was had
In place of sinners on the tree,
  Righteousness came to the place;
Its sword awoke, a wrathful form,
Striking the Shepherd as far as the grave,
  And demanding satisfaction for Heaven.

If the gentle Lamb was not spared,
From the enormous and deathly pain,
  What shall become of an untrue world?
My soul, flee to Christ with thy anguish,
Thou wilt get to hide quietly
    under his cross,
  From all destroying wrath.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~