Cyn byddo hir rhydd brenin braw

(Terfynu Bywyd a Llafur)
Cyn byddo hir rhydd brenin braw
Ar ' mhabell inau bwys ei law;
  Pryd hyn rhaid myned yn ddilyth
  I wyddfod Duw fy nhadau byth.

O gad i mi, heb aeth na braw,
Pryd hyny lechu yn dy law;
  Rhoi'm swydd a'm bywyd lawr 'run pryd;
  Terfynu f'oes a'm gwaith yn nghyd.

Pan fyddwyf yn gwynebu'r glŷn,
O Arglwydd, cofia fi'r pryd hyn;
  I blith dy blant, O gad im' dd'od,
  I'th wel'd a'th foli uwch y rhod.
cyf. Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tôn [MH 8888]: Alford (<1876)

(Ending Life and Labour)
Before long the king of dread will put
On my tent the force of his hand;
  This time I must go without pretence
  Before the God of my fathers forever.

O let me, without fear or dread,
At that time hide in thy hand;
  Turn my job and my life down at the same time;
  End my life and my work altogether.

When I am facing the vale,
O Lord, remember me at that time;
  Amid thy children, O let me come,
  To see thee and to praise thee above the sky.
tr. 2009 Richard B Gillion
~














Charles Wesley 1707-88

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~