Cyn canfod y dwyrain yn gwenu

1,2,(3).
(Cân Nadolig)
Cyn canfod y dwyrain yn gwenu,
  Na'r wawr yn arianu y nen,
Gogoniant yr Arglwydd yn t'w'nu,
  A ganfu'r bugeiliaid uwchben;
O fewn y goleuni ysplenydd
  'Roedd cenad yr Arglwydd ein Duw
Yn datgan am eni'r Gwaredwr,
  Iachawdwr i wael ddynolryw.

Clywch, clywch -
    dyna'r entrych yn datsain!
  O fwyned y sain! Pa beth sydd?
Ai organ y nefoedd ar ganiad
  A glywir cyn toriad y dydd?
Hyfryd-lais soniarus
    efengyl
  Sy'n anthem yr engyl diri',
A sylwedd y gân yw'r Iachawdwr
  A aned yn Noddwr i ni.

Gan hyny, down ninau â'n hanthem,
  Cydganwn yn llawen ein llef;
Mae Duw gyda ni yn y preseb,
  A daear mewn undeb â'r nef!
Mae Jubili'r oesoedd yn gwawrio, -
  Trugaredd yn hwylio'n ddilen
I hoff amgeleddu hil Adda!
  Amen - Haleliwia - Amen.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tôn [9898D]: Cyfamod (<1876)

(Christmas Song)
Before finding the east smiling,
  Or the dawn silvering the sky,
The glory of the Lord shining,
  The shepherds found overhead;
Within the splendid light
  The emissary of the Lord our God was
Declaring about the birth of the Deliverer,
  A Saviour for poor humankind.

Hear, hear -
    there is the vault echoing!
  O how pleasant the sound! What is it?
Is the organ of heaven in song
  To be heard before the break of day?
The resounding, delightful voice
    of the gospel
  Is the anthem of the innumerable angels,
And the meaning of the song is the Saviour
  Who was born as a protector for us.

Therefore, let us bring our anthem,
  Let us chorus joyfully our voices;
God is with us in the manger,
  And earth in unity with heaven!
The Jubilee of the ages is dawning, -
  Mercy hastening unveiled
Fondly to care for the race of Adam!
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~