Cyn etto greu un angel

(Gosodiad Crist yn Gyfryngwr
mewn Cyfammod)
Cyn etto greu un angel,
  Na seraph sydd uwch ben,
Na gosod yn y dyfnder,
  Sylfeini'r nefoedd wen;
Jehofah oedd yn ddedwydd
  Erioed cyn bod y byd,
Ac 'nol ei fyn'd yn danllwyth,
  A bery felly o hyd.

Yn nyfnder tragwyddoldeb,
  Ymddygodd Duw ei hun
Ar arfaeth faith ddiderfyn,
  A'i rhanau yn gytun;
A fyddai mewn rhyw oesoedd,
  Er clod i'w enw ef,
I gael ei chyflawn esgor
  Mewn crëadigaeth gref.

Am hyn ei Fab etholodd,
  Uniganedig sy'
I wisgo natur ddynol,
  Fath wed'yn wisgem ni;
Fel byddai yn ddechread,
  A sylfaen gadarn gref,
O bob cymundeb eilwaith,
  F'ai fyth
      rhwng dae'r a nef.

Messiah yw ei enw, -
  Efe eneinniodd Nêr
Yn Frenen mawr tragwyddol,
  Ar luoedd uwch y sêr;
Y lluoedd ar a ddaear,
  A hwythau hefyd sy
Yn rhwym yn y cadwynau,
  Yn nyfnder uffern ddu.
William Williams 1717-91

[Mesur: 7676D]

(The setting of Christ as Mediator
in a Covenant)
Before yet creating any angel,
  Or seraph which is above,
Or the setting in the depth,
  Of the foundations of bright heaven;
Jehovah was happy
  Ever before there was the world,
And after it goes as a conflagration,
  He shall endure thus forever.

In the depths of eternity,
  God himself behaved
According to the vast, endless purpose,
  With its parts in agreement;
Which would be in some ages,
  For praise to his name,
To get totally born
  Within strong creation.

Therefore he chose his Son,
  Who was only-begotten,
To wear human nature,
  Just the kind we wore;
As it would be in the beginning,
  With a firm, strong foundation,
From every communion a second time,
  There would never be
      between earth and heaven.

Messiah is his name, -
  He anointed Chief
As great, eternal King,
  Over hosts above the stars;
The hosts on the earth,
  And them also who are
Bound in the chains,
  In the depth of black hell.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~