Cyn tynir f'enaid gwan, O'i loches gref i ma's, Mae'n rhaid dystrywio o'r bron Holl ddyfais dwyfol ras; Anfeidrol fraich a gyll ei grym, Cyn collo'm henaid egwan ddim. Ffyddlondeb mawr y nef, A bâr yn ddiau byth, 'D oes dim a'i briwa ef, O'r ddae'r i uffern syth; Ei arfaeth fawr a'i air sy'n un, A gwaed y groes oll yn gytun. Cyfnewid y mae dyn, Tröedig yw erio'd, Ond digyfnewid Duw, Fel haul neu sêr y rhod; Ac ar ei faith ffyddlondeb Ef, Y try gogoniant nef y nef. O fendith heb ddim trai! Cysuron heb ddim rhi'! Sy'n tarddu, Iesu, maes Bob awr o honot ti! Nis gallaf fyth ddymuno mwy Trysorau ng sydd yn dy glwy'.William Williams 1717-91 [Mesur: 666688] gwelir: Ffyddlondeb mawr y nef |
Before my weak soul is to be pulled, Out from its strong refuge, It is necessary to destroy completely All the scheme of divine grace; An immeasurable arm shall lose its force, Before my weak soul loses anything. The great faithfulness of heaven, Shall endure doubtless forever, There is nothing which shall bruise it, From the earth to stubborn hell; Its great intention and its word are as one, And the blood of the cross all in agreement. Changeable is man, Prone to turning he is always, But unchangeable God, Like the sun or stars of the sky; And on His vast faithfulness, Turns the glory of the heaven of heaven. O blessing without any ebbing! Comforts without any number! Which are issuing, Jesus, out Every hour from Thee! I cannot every desire more Treasures than are in thy wound.tr. 2015 Richard B Gillion |
|