Cysegra ni ā'th Yspryd Glān
Cysegra ni'th Yspryd Glān
Cyssegra ni ā'th Ysbryd Glān

Rhan I - 1,2,3;  1,2,3,4,5,6,7;  Rhan I - 1,2,4;  1,(4),5,7.
(Adgyfodiad y Saint)
Cysegra ni ā'th Ysbryd Glān,
  Dod dduwiol anian ynom,
Ac yn dy wyddfod, ar dy wedd,
  Tu draw i'r bedd y byddom.

Pan bydro'r corff yn lludw mān
  Tan oerllyd geulan angau,
Ei ranau oll a wel yr Ion,
  Ni chyll 'run o'i ronynau.

Un llwchyn bach
    yn ol ni bydd
  Ar foreu ddydd y cyfri';
Pan fyddo holl dywythau'r byd
  O'r bedd yn cyd gyfodi.

O pa mor wynfydedig fydd
  Y rhai mewn ffydd a hunant;
A nerth addurnir hwynt yn ddwys
  I gynnal pwys gogoniant.

Er myn'd i lawr yn wael eu gwedd,
  I grŷd y bedd llygredig,
Mewn undeb pur ā Christ eu Pen
  Cānt godi'n fendigedig.

Y corff a'r enaid - un a fydd,
  Y ddau dragywydd gydmar;
Mewn undeb tawel byddant hwy,
  Nid angau mwy a'u hysgar.

Mor ogoneddus fydd y saint
  Yn meddu'r fraint o newydd,
A gollwyd gynt yn Eden ardd,
  Sef delw hardd eu Harglwydd.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850

Tonau [MS 8787]:
    Dominus Regit Me (J B Dykes 1823-76)
    Glanceri (D Emlyn Evans 1843-1913)
    Mawl (David Evans 1874-1948)
    Swansea (W D Samuel)

gwelir:
   
Rhan II - Er myn'd i lawr yn wael eu gwedd

(The Resurrection of the Saints)
Consecrate us with thy Holy Spirit,
  May a godly nature come upon us,
And in thy presence, in thy image,
  Beyond the grave may we come.

When the body decays into fine dust
  Under the chilly bank of death,
All its parts the Lord shall see,
  He will not lose any of his grains.

One little speck of dust
    shall be left of us
  On the morn of the day of reckoning;
When all the tribes of the world shall be
  Rising from the grave together.

O how blessed shall be
  They in faith who sleep;
And strength adorn them intensely
  To uphold the weight of glory.

Although going down in a base condition,
  To the cradle of the corrupt grave,
In pure unity with Christ their Head
  They will get to rise blessedly.

The body and the soul - one shall be,
  The two eternal companions;
In quiet unity they shall be,
  Death shall no more divorce them.

How glorious shall be the saints
  Possessing the privilege anew,
Which was lost once in Eden garden,
  That is the beautiful image of their Lord.
tr. 2016,17 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~