Da iawn (Y gwnaeth ein Duw bob peth mewn dawn)

(Am yr Adferiad)
      Da iawn,
Y gwnaeth ein Duw bob peth mewn dawn,
O'i fawr fendithion llon yn llawn,
  Ei weled cawn fel Eden Ardd;
    Y seithfed fil o'i oedran cyd,
  Bydd sabbath byd gwir
          hyfryd hardd.

      Barn, barn
Gwir eiriau Duw yw rhai'n bob darn,
A dynion sicr ar y sarn,
  Gwirionedd cadarn y'nt i gyd;
    Bydd heddwch hoff
            ymhyrth pob gradd,
  Heb wae na gwa'dd, na lladd na llid.

      Rhy faith,
Yw rhyfedd swm
        y rhif o saith,
Mae'r gair yn llawn
        o'r iawn-deg iaith,
  Chwe' mil mewn gwaith o chwys a pho'n;
    A'r seithfed fil
            yn meddu'r ma's,
  Gogoniant gras yn nheyrnas Ion.

      Rhaid, rhaid
I Grist deyrnasu yn ddibaid
Nes troi'i elynion llym
        i'r llaid,
  A'r anffyddloniaid dan ei draed;
    A gwedi'n rhydd â llawen lef,
  Ei deyrnas ef i Dduw â'r Tad.

      Od oes,
Y fath ogoniant moliant moes
Yn bod i Grist lle bu dan groes,
  Yn rhoi ei einioes wiw a'i waed?
    Mawr fydd ei fraint
            pan el ef fry
  Yngyd â'i lu
          i dŷ ei Dad.
John Henry (Harri Sion) 1664-1754
Amryw Hymnau 1773

[Mesur: 288.888]

gwelir: Rhaid rhaid (I Grist deyrnasu yn ddibaid)

(About the Restoration)
      Very good,
Our God made everything in ability,
From his great cheerful blessings fully,
  We can see it like the Garden of Eden;
    The seventh thousand of his age together,
  Shall the sabbath world be truly
          delightfully beautiful.

      Judgment, judgment
The true words of God are those every part,
And men surely on the pavement,
  Firm truth are they all;
    There shall be welcome peace
            in the portals of every degree,
  Without woe or scorn, or killing or wrath.

      Too vast,
Is the wonder of the sum
        of the number of seven,
The word is full
        of the truly fair language,
  Six thousand in work of sweat and pain;
    And the seventh thousand
            possessing the field,
  The glory of grace in the Lord's kingdom.

      He must, Christ
Must reign unceasingly
Until turning his keen enemies
        into the mud,
  And the infidels under his feet;
    And afterwards given with a joyful cry,
  His kingdom to God and the Father.

      Is there,
Such a glory of praise being
Given to Christ where he was under a cross,
  Giving his worthy life and his blood?
    Great shall be his privilege
            when he goes up
  Together with his host
          to his Father's house.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~