Da wyt ein Duw da iawn i ni

1,2,3a,5;  1,2,3b,4,5;  1,6.
(Daioni diymbaid Duw)
Da wyt ein Duw, da iawn i ni,
  Yn llawn daioni beunydd;
Er maint a wnawn yn D'erbyn Di
  'Rwyt gyda ni'n dragywydd.

Llawn harddwch yw pob peth o'th waith,
 Yn ddrych i'w faith ryfeddu;
O bydded inni, Ddwyfol Ner,
  Dros fyth dy ber foliannu.

Pob peth yn ddoeth, pob peth yn iawn
  Pob peth yn llawn o'th fawredd;
Pob peth a lunir dan Dy law,
  I ddyn a ddaw'n drugaredd.

[Pob peth yn ddoeth, pob peth yn iawn
   Pob peth yn llawn o'th fawredd;
 Drwy drefnau'th
     wyllys o bob rhyw,
   'R wyt inni'n Dduw trugaredd.]

Mae cylch bodoldeb,
    drwyddo draw,
  Yn waith dy law ryfeddol;
Cawn, ym mhob man,
    drwy gorph pob awr,
  Dy gariad mawr anfeidrol.

Boed i bob un âg enaid clau,
  Lwyr ufuddhau'n dra chyfion,
I air dy deyrnas, Iôr y nef,
  A'i goledd ef i'w galon.

Daioni Duw'r goruchel Dad,
  Byth boed pob llygad arno;
Gwaith pena'r nef ar beraidd dôn
  Yw cynnal son am dano.
Edward Williams (Iolo Morganwg) 1747-1826

Tôn [MS 8787]: Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98)

(The unceasing goodness of God)
Good thou art, our God, very good to us
  Full of goodness daily;
Despite how much we do against Thee
  Thou art with us eternally.

Full of beauty is everything of thy work,
  An object vastly to wonder at;
O may we be, Divine Master,
  For ever purely praising thee.

Everything wise, everything true
  Everything full of thy majesty;
Everything designed under Thy hand,
  To man shall come as a mercy.

[Everything wise, everything true
   Everything full of thy majesty;
 Through the arrangements of thy
     will of every kind,
   Thou art to us a merciful God.]

The circle of existence is,
    quite thoroughly,
  The wonderful work of thy hand;
We get, everywhere,
    through the body every hour,
  Thy great, infinite love.

May everyone with a true soul be
  Completely obeying very righteously,
The word of thy kingdom, Lord of heaven,
  And nurturing it in his heart.

The goodness of God the supreme Father,
  Forever be every eye upon it;
The chief work of heaven with a sweet tune
  Is to uphold mention about it.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~