Daeth Gwaredwr gwiw i ddynion

Daeth Gwaredwr gwiw i ddynion
  O newydd da;
Sych dy ddagrau, gaethferch Seion,
  O, newydd da;
Chwyth yr utgorn ar dy furiau,
Gwisga wên a sych dy ddagrau,
Gorfoledda yn ei angau,
  O, newydd da.

Daeth o uchder gwlad goleuni,
  O gariad mawr,
I ddyfnderoedd o drueni,
  O gariad mawr,
Rhodiodd drwy anialwch trallod,
Ac o'i fodd fe yfai'r wermod
Roddodd dyn yng nghwpan pechod,
  O gariad mawr.

Trefnodd ffordd i gadw'r euog,
  O ryfedd ras;
trefnodd fara i'r anghenog,
  O ryfedd ras;
Yn y fynnon ar Galfaria
Gylch yr aflan, ac fe'i gwisga
 chyfiawnder fel yr eira,
  O ryfedd ras.

Clywch ei lais, holl gyrrau'r ddaear,
  Dewch ato ef;
Syllwch ar ei wenau hawddgar,
  Dewch ato ef;
Cewch, ond derbyn ei ymgeledd,
Nerth i ddringo o bob llygredd,
A chewch goron yn y diwedd,
  Dewch ato ef.
Richard Davies (Mynyddog) 1833-77

Tôn: Wynnstay (J Ambrose Lloyd 1815-74)

A worthy Deliverer has come to men
  O good news;
Dry thy tears, bondmaid of Zion,
  O good news;
Blow the trumpet on thy walls,
Wear a smile and dry thy tears,
Rejoice in his death,
  O good news.

He came from the height of the land of light,
  O great love,
To the depths of shame,
  O great love,
He walked through the desert of tribulation,
And willingly he drink the wormwood
Which man had put in the cup of sin,
  O great love.

He prepared a way to save the guilty,
  O amazing grace;
He prepared bread for the needy,
  O amazing grace;
In the well on Calvary
He washes the foul, and clothes him
With righteousness like the snow,
  O amazing grace.

Hear his voice; all you corners of the earth,
  Come unto him;
Gaze upon his comely smiles,
  Come unto him;
You need only accept his protection,
Strength to climb from every corruption,
And you may have a crown in the end,
  Come unto him.
tr. 2008 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Churches ~ Lyrics ~ Home ~