Daeth i mi iechydwriaeth
Daeth i ni iachawdwriaeth
Daeth in(n)i iachawdwriaeth
Daeth inni iechydwriaeth

1,2,(3,4,(5,6,7));  1,3.
(Rhinwedd gwaed y cymmod,
yn ddigonol i dawelu euogrwydd.)
Daeth ini iachawdwriaeth,
  Trwy eithaf chwys a gwaed;
Mae'n codi pechaduriaid,
  O'r dyfnder ar eu traed;
N'awn byth i 'mofyn haeddiant,
  Trwy'r nef na'r ddaiar lawr,
Ond haeddiant pen Galfaria,
  Rhinweddau'r aberth mawr.

Pan oedd euogrwydd creulon
  Yn llosgi fel y tân,
A Satan yntau'n rhifo
  Fy meiau, fawr a mân;
Anfeidrol haeddiant Iesu
  A wnaeth i'r glorian droi,
A'i nefol ymddangosiad
  Wnaeth i'm gelynion ffoi.

Fe'n siomir gan y ddaiar,
  Fe'n siomir gan y byd,
Fe'n siomir gan ein calon,
  Fwy na chan rhai'n i gyd:
Mewn myrdd o demtasiynau,
  A mil o groesau'r llawr,
Ni saf neb byth yn ffyddlon,
  Ond yr Eiriolwr mawr.

O Arglwydd dyro olwg
  Ar dy anfeidrol rym,
Yn wyneb holl ddichellion
  A llid gelynion llym;
Un olwg ar dy haeddiant,
  Yr Iawn anfeidrol fawr,
A wna i bob gelyn gilio,
  A chwympo oll i lawr.

O Arglwydd Dduw rhagluniaeth,
  Ac iachawdwriaeth dyn,
Tydi sy'n llwyodraethu,
  Y byd a'r nef dy hun:
Yn wyneb pob rhyw g'ledi,
  Y sydd neu etto a ddaw,
Dod gadarn gymhorth imi,
  Imi, i lechu yn dy law.

Er cryfed ydyw'r gwyntoedd,
  A chedeirn dònau'r môr,
Doethineb ydyw'r Llywydd,
  A'i enw yn gadarn IOR;
Er gwaetha dylif pechod,
  A llygredd o bob rhyw,
Diangol byth soddi,
  Am fod yr Arch yn Dduw.

O am gael ffydd i edrych,
  Gydâ'r angylion fry,
I fôr yr iachawdwriaeth,
  Dirgelwch ynddi sy';
Dwy natur mewn un Person,
  Yn gyson yno a gaed,
Anfeidrol a thra'wyddol,
  Yw rhinwedd dwyfol waed.
ini :: i ni :: inni :: i mi
N'awn byth :: 'Dai byth :: Nid af i
siomir :: siomwyd
Ni saf neb byth :: Ni safodd neb
yr Eiriolwr mawr :: fy Eiriolwr mawr

Pigion o Hymnau &c. 1808
  efallai o   |   possibly from
Grawnsypiau Canaan 1795

Tonau [7676D]
Abertawe (Salmydd Marot)
Bremen / Munich (Meiningan Gesangbuch)
Durrow (alaw Wyddelig)
Esay (<1835)
Rutherford (Chrétien Urhan 1790-1845)
Rhyddid (alaw Gymreig)
Syria (John Roberts 1822-77)
Talybont (<1869)
Y Wern (W J Williams 1886- )

gwelir: Fe'm siomwyd gan y ddaear

(The merit of the blood of the covenant,
as sufficient to silence guilt.)
Salvation came to us,
  Through the extremes of sweat and blood;
It is raising sinners,
  From the depths onto their feet;
I would never ask for merit,
  Throughout heaven or earth below,
But the merit of the summit of Calvary,
  The virtues of the great sacrifice.

When cruel guilt was
  Burning like the fire,
And Satan himself counting
  My faults, great and small;
The immeasurable merit of Jesus
  Which made the scales turn,
And his heavenly appearing
  That made my enemies flee.

We are disappointed by the earth,
  We are disappointed by the world,
We are disappointed by our heart,
  More than by those altogether:
In a myriad of temptations,
  And a thousand crosses of the earth,
No-one shall ever stand faithful,
  But the great Intercessor.

O Lord, give a sight
  Of thy immeasurable force,
In the face of all the deceptions
  And wrath of the sharp enemy;
One glimpse of thy merit,
  The great, immeasurable Ransom,
That makes every enemy retreat,
  And all fall down.

O Lord God of providence,
  And the salvation of man,
Thou art governing,
  The world and heaven thyself:
In the face of every kind of hardship,
  Which is or is yet to come,
Come a firm help to me,
  To me, to hide in thy hand.

Despite the strength of the winds,
  And the firm waves of the sea,
Wisdom is the Governor,
  And his name is the firm SOVEREIGN;
Despite a torrent of sin,
  And corruption of every kind,
Safe forever from sinking,
  Because the Ark is God.

Oh to have the faith to look,
  With the angels above,
To the sea of salvation,
  In which is a mystery;
Two natures in one Person,
  Constantly had there,
Immeasurable and eternal,
  Is the merit of divine blood.
to us :: to us :: to us :: to me
I would never :: I would never :: I am not going to
::
No-one shall ever stand :: No-one stood
the great Intercessor :: my great Intercessor

tr. 2015,19 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~