1,2,3,((4),5); 1,(2),4,5; 1,2,6,7. Daeth Llywydd nef a llawr I wisgo dynol gnawd; Wel, henffych Arglwydd mawr! A henfych dirion Frawd! Henffych i Dduw a'n Ceidwad hael, A gym'rodd arno'n natur wael. Mewn cnawd i'n tynu'n rhydd Daeth y tragwyddol Air; Wel, henffych fyth i'r dydd Y ganwyd Ef o Fair: O'i râs fe ddaeth o uchder ne', I brofi'r lladdfa yn ein lle. I groth y wyryf wan, I garchar, ac i'r bedd, Y daeth Ef ar ein rhan, I haeddu gras a hedd: Mewn ing a loes ar Galfari, Agoryd wnaeth y nef i ni. Pa dafod, neu pa Ddawn, A fedd angelaidd lu, A ddywed byth yn llawn Am ras ein Ceidwad cu? Ei waed fe rodd, o'i gariad gwiw, I gànu'r lleiddiaid dua'u lliw. Mae cariad yn ei wedd At wael golledig fyd; Cyfiawnder llym a hedd Yn ymgusanu 'nghyd; Trugaredd a gwirionedd pur Yn ymddysgleirio yn ei gur. Canmolwn râs yr Oen, Cyfoethog Frenhin nen, A ddaeth yn dlawd o'i fodd, Heb le i roi lawr ei ben: Trwy'i dlodi Ef caiff myrdd diri' Dragwyddol gyfoeth nefoedd fry. Cawn gysgu'r felys hun, Heb deimlo gwŷn na gwae, Nes dêl Archangel Duw I'n deffro a'n bywhau: Ein cyrph yn anllygredig fydd, Yn more'r adgyfodiad ddydd. - - - - - Daeth Llywydd nef a llawr I wisgo dynol gnawd; Hosanna, Arglwydd mawr, A henfych well, ein Brawd! Clodforwn Dduw a'n Ceidwad hael, A welwyd yn y preseb gwael. Mewn cnawd i'n tynnu'n rhydd Daeth y tragwyddol Air; O henffych well i'r dydd Y ganed Ef o Fair! Clodforwn Dduw a'n Ceidwad hael, A welwyd yn y preseb gwael. Pa dafod, neu pa Ddawn, A fedd angelaidd lu, A draetha byth yn llawn Am ras ein Ceidwad cu? Clodforwn Dduw a'n Ceidwad hael, A welwyd yn y preseb gwael. Mae cariad yn ei wedd At wael golledig fyd; Cyfiawnder llym a hedd Yn ymgusanu 'nghyd; Clodforwn Dduw a'n Ceidwad hael, A welwyd yn y preseb gwael. - - - - - Daeth Llywydd nef a llawr I wisgo dynol gnawd; Hosanna, Arglwydd mawr, A henfych dirion Frawd! Henffych i'n Dduw a'n Ceidwad hael, Cymerodd arno'n natur gwael. Mewn cnawd, i'n rhoddi'n rhydd Daeth y tragwyddol Air; Wel, henffych byth i'r dydd Y ganwyd ef o Fair: O'i ras fe ddaeth o uchder ne' I brofi'r lladdfa yn ein lle. I wisgo natur wan, I angau ac i'r bedd, Y daeth ef ar ein rhan, I haeddu gras a hedd: Mewn ing a loes, ar Galfari, Agorwyd wnaeth y nef i ni.Thomas Jones 1756-1820
Tonau [666688]: gwelir: I enw'r Iesu mawr Mae cariad yn ei wedd Pa dafod neu pa Ddawn? |
The Governor of heaven and earth came To wear human flesh; Well, hail, great Lord! And hail tender Brother! Hail to God and our generous Saviour, Who took upon himself our base nature. In flesh to pull us free Came the eternal Word; Well, hail forever to the day He was born of Mary: From his grace he came from the height of heaven, To taste the slaughter in our place. To the womb of the weak virgin, To prison, and to the grace, He came on our behalf, To merit grace and peace: In anguish and throes on Calvary, Open was heaven made for us. What tongue, or what Talent, Which a heavenly hosts possesses, Shall ever tell fully Of the grace of our dear Saviour? His blood he gave, from his worthy love, To bleach the murderers blackest their colour. There is love in his countenance Towards a wretched, lost world; Keen righteousness and peace Kissing one another; Pure mercy and love Radiating in his pain. Let us praise the grace of the Lamb, The rich King of the sky, Who came poor, of his own volition, With nowhere to lay down his head: Through His poverty an unnumbered myriad will get The eternal wealth of heaven above. We may get to sleep the sweet slumber, Without feeling complaint or woe, Until God's Archangel come To awaken us and revive us: Our bodies incorruptible shall be, In the morn of the resurrection day. - - - - - The Governor of heaven and earth came To wear human flesh; Hosanna, great Lord, And all hail, our Brother! Let us praise God and our generous Saviour, Who was seen in the poor manger. In flesh to pull us free Came the eternal Word; O all hail to the day He was born of Mary! Let us praise God and our generous Saviour, Who was seen in the poor manger. What tongue, or what Talent, Which a heavenly hosts possesses, Shall ever tell fully Of the grace of our dear Saviour? Let us praise God and our generous Saviour, Who was seen in the poor manger. There is love in his countenance Towards a wretched, lost world; Keen righteousness and peace Kissing one another; Let us praise God and our generous Saviour, Who was seen in the poor manger. - - - - - The Governor of heaven and earth came To wear human flesh; Hosanna, great Lord, And hail tender Brother! Hail to our generous God and Saviour, Who took upon him our poor nature. In flesh, to set us free Came the eternal Word; See, hail forever to the day He was born of Mary: Of his grace he came from the height of heaven To experience the slaughter in our place. To wear a weak nature, To death and to the grave, He came on our behalf, To merit grace and peace: In anguish and throes, on Calvary, Open he did heaven to us.tr. 2015,16 Richard B Gillion |
|