Daeth Prynwr dynol-ryw yn fyw o'i fedd A disglair ddelw Duw yn harddu'i wedd; Dymchwelodd deyrnas gaeth hen deyrn marwolaeth du: Rhaid ydoedd rhoi rhyddhad i'n Ceidwad cu. Gwnaeth waith y cymod hedd mewn llwyredd llawn, Mae'i feddrod gwag yn dweud ei wneud yn Iawn; Trwy'r codi rhoes y Tad fawrhad ar Galfari, A thorrodd gwawr ar nos ein hachos ni. Yng ngolau'r trydydd dydd cwyd ffydd ei phen, Gwêl Iesu'n selio'i hawl i fawl nef wen; A thrwy'i ddyrchafiad ef gwêl hefyd nef i'w saint, Nef lawn o ddwyfol hedd: O ryfedd fraint!Robert Meigant Jones (Meigant) 1851-99
Tonau [6464.6664]: |
The Redeemer of humankind came To life from his grave With the shining image of God Adorning his his countenance He overturned the kingdom of captivity The old tyrant of black death: It was necessary to give freedom To our dear Saviour. He did the work of the reconciliation of peace In total completeness, His empty tomb says His making is a satisfaction; Through the rising the Father gave Exaltation on Calvary, And the dawn broke upon night On our account. In the light of the third day Faith raises its head, It sees Jesus sealing his right To the praise of bright heaven; And through his rising It sees the pleasant heaven to his saints, Heaven full of divine peace: O wonderful privilege!tr. 2008 Richard B Gillion |
|