Daeth yr awr i'r Addfwyn Iesu Droi yn ôl i dŷ Ei Dad; Daeth yr awr i'w ogoneddu, Wedi prynu ein rhyddhad; Awn i Frenin y brenhinoedd Ddringo Bryn Ei farwol loes; Awr i holl fwyriadau'r nefoedd Gydgyfargod wrth y Groes. Daeth yr awr i'w gariad selio Y cyfamod fry a wnaed; Daeth yr awr i'r creigiau wylo Dan ddefnynnau pur Ei waed; Awr cymodi byd aflonydd Yn Ei aberth iawnol Ef; Awr i ganu anthem newydd Ar delynnau aur y nef. Daeth yr awr, ac ni fydd eisiau Croes i'r Iesu mawr drachefn; Daeth yr awr i daflu beiau Euog fyd tu ôl i'w gefn; Drwy ehangder Ei lywodraeth, Wedi'r fuddugoliaeth fawr, O'i ddigonol iachawdwriaeth Daw bendithion fyrdd i lawr.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 8787D] |
The hour came for the Gentle Jesus To turn back to His Father's house; Came the hour for him to be glorified, Having purchased our freedom; An hour for the King of kings To climb the Hill of His mortal anguish; And hour for all the purposes of heaven To meet together at the Cross. The hour came for his love to seal The covenant which was made above; The hour came for the rocks to weep Under the pure drops of His blood; An hour to reconcile an uneasy world In His ransoming sacrifice; And hour to sing a new anthem On the golden harps of heaven. The hour came, and there shall be no need Of a cross for great Jesus over again; The hour came to cast the sins Of a guilty world behind his back; Through the breadth of His government, After the great victory, From his sufficient salvation Shall come a myriad blessings down.tr. 2017 Richard B Gillion |
|