Dan adain dy gariad my ganaf Yng nghanol tymhestloedd y byd; Yn heddwch dy glwyfau ymguddiaf Nes peidio o'r gwyntoedd i gyd; Mae rym y cyfamod i'm cadw, Mae cysgod y groes imi'n hedd: Dros euog fel fi buost farw, Dros feirwon Ti godaist o'r bedd. Dan adain dy gariad arhosaf Nes myned o'r nefoedd â'm bryd; Ar degwch ei thiroedd y cadwaf Fy ngolwg yn dawel o hyd; Caniadau y dorf waredigol A ddysgaf dan orchudd dy ras; Ac wedi mynd adre'n ddihangol Bydd canu'n fwy peraidd ei flas.Griffith Pennar Griffiths (Penar) 1860-1918 Tôn [9898D]: Elliot (John Ellis ) |
Under the wings of thy love I shall sing In the midst of the world's tempests; In the peace of thy wounds I will hide Until all the winds cease; The power of the covenant is to keep me, The shadow of the cross is peace to me: For a guilty one like me thou didst die, For dead ones thou didst rise from the grave. Under the wings of thy love I will stay Until taking my mind from heaven; On the fairness of its territories I will keep My gaze quietly always; The songs of the delivered throng I will learn under the cover of thy grace; And having gone home safe Singing shall be of sweeter taste.tr. 2023 Richard B Gillion |
|