Dan/Tàn fy maich yr wyf yn griddfan

(Dysgwyl am ryddhad)
Tan fy maich yr wyf yn griddfan,
  Dysgwyl amser o ryddhau;
Dysgwyl i 'mhechodau dreulio,
  Etto 'mhechod sy'n parhau;
Dysgwyl câf gasineb hollol,
  Caria f'addunedau'r dydd,
Etto finnau yn y gadwyn,
  Ac yn methu myn'd yn rhydd.

O na chlywn yr udgorn arian
  Yn cyhoeddi'n eglur iawn,
Bellach i fy enaid llwythog
  Heddwch a maddeuant llawn:
O na ddeuai nerth i waered,
  Fel llifeiriant mawr ei rym,
Fel nad allai'm nwydau penaf
  Mwyach ti wrthsefyll ddim.

Tòr y rhwydau sy gan Satan,
  Llosg gadwyni yn y tân;
Dyred, argyhoeddiad nerthol,
  Difa 'mhechod o dy flaen:
Delled peraidd heddwch yntau,
  Nes gorchfyga melys chwant,
Nes bo 'mai trwy bob rhyw foddion
  Felly yn diflanu i bant.

             - - - - -

Tan fy maich yr wyf yn griddfan,
  Dysgwyl amser i ryddhau;
Dysgwyl fy mhechodau dreulio,
  Etto mhechod sy'n parhau;
Dysgwyl caf gasineb hollol,
  Carief fy addunedau i'r dydd;
Etto finnau yn y gadwyn,
  Ac yn methu myn'd yn rhydd.

O na chlywn yr udgorn arian,
  Ryw bryn yn rhoi bloedd i ma's,
Ac yn cyhoeddi i f'enaid llwythog,
  Heddwch a maddeuol ras:
O na ddeuai nerth i wared,
  Fel llifeiriant mawr ei rym,
Fel na allai'm nwydau pennaf,
  Bellach i'w wrth-sefyll ddim.

Mi ro'wn fydoedd maith, pe meddwn,
  Am gael gweled torri lawr
Bethau sy'n myn'd â meddwl
  Mil o weithiau yn yr awr:
Trais a gorchest sydd ar fy yspryd,
  Cryf yw'm gelyn, minnau'n wan,
Addfwyn Oen, yn fuan brysia,
  Help fi o'r pydew hyn i'r lan.
William Williams 1717-911

Tonau [8787D]:
Bodawen (alaw Gymreig)
Engedi (J E Jones 1856-1927)
Jersey (<1869)
Trefaldwyn (John Owen 1821-83)
Trowbridge (<1825)

gwelir: O na chlywn yr utgorn arian

(Expecting freedom)
Under my burden I am groaning,
  Expecting a time of freedom;
Expecting my sins to wear out,
  Still my sins are enduring;
Expecting I shall get complete hatred,
  My vows shall carry the day,
Still I am in the chain,
  And failing to go free.

O that I would hear the silver trumpet
  Announcing very clearly,
Henceforth for my burdened soul
  Peace and full forgiveness:
O that strength would come down,
  Like a stream of great force,
That I my chief lust may not
  Any more withstand thee at all.

Break the snares that Satan has,
  Burn chains in the fire;
Come, thou strong conviction,
  Destroy my sin before thee:
Let sweet peace itself come,
  Until overcoming sweet desire,
Until my fault by all means
  Thus vanish away.

                 - - - - -

Under my burden I am groaning,
  Expecting a time of freedom;
Expecting my sins to wear out,
  Still my sins are enduring;
Expecting I shall get complete hatred
  That my vows shall carry the day;
Still I am in the chain,
  And failing to go free.

O that I would hear the silver trumpet,
  Some time giving out a shout,
And announcing to my burdened soul,
  Peace and forgiving grace:
O that strength would come to deliver,
  Like a stream of great force,
That my chief lusts would
  No longer withstand it at all.

I would give vast worlds, if I possessed them,
  To get to see the breaking down
Of things that take my thought
  A thousand times an hour:
Violence and defeat are upon my spirit,
  Strong is my enemy, whereas I am weak,
Gentle Lamb, soon hurry,
  Help me up from this pit.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~