Darfydded son am bleser mwy, Yn agos ac yn mhell; Fel gallwyf yfed dyfroedd pur, O ffynon lawer gwell. O cau fy llygaid rhag im' wel'd Pleserau gwael y byd, Ac i mi wyro byth oddiar Dy lwybrau gwerthfawr drud. Byth gorfoledda f'enaid mwy, Dy briod yw dy Dduw; Mwy ydyw rhinwedd marwol glwy', Na phechod o un rhyw. 'D â'i mofyn haeddiant byth, na nerth, Na ffafr neb na'i hedd, Ond hwnw'n unig gwyd fy llwch, Yn fyw i'r làn o'r bedd. - - - - - Darfyddwn son am bleser mwy, Yn agos ac yn mhell; Tra cawn i yfed dyfroedd pur, O ffynnon lawer gwell. Darfydded dydd, darfydded nos, Fel mynyd fechan awr; Tra cawn yn caru a rhoi mhwys, Ar fynwes f'Arglwydd mawr. Eisteddais dan ei gysgod ef, A'i ffrwyth oedd felus iawn; Ac yma treuliwn ddyddiau f'oes, Fyth fyth yn ddedwydd iawn. Ac megys pren afalau pêr, Yn nghanol prenau'r coed; Felly f'Anwylyd yntau 'mhlith Y meibion sy'n cael clod. F'anwylyd sydd fel lili hardd, Hyfryda erioed ei liw; Ag sydd yn maeddu blodau'r byd, Posïau pena' eu rhyw.William Williams 1717-91 [Mesur: MC 8686] gwelir: 'D a' i 'mofyn haeddiant byth na nerth Darfydded dydd darfydded nôs F'anwylyd sydd fel lili hardd Iesu difyrwch f'enaid drud Iesu yw tegwch mawr y byd Mae durtur yr efengyl fwyn Na foed fy mywyd bellach mwy Ni feddaf ar a ddaear fawr O tyred Ysbryd sanctaidd pur 'Rwy'n morio tua chartre'm Nêr Tyr'd Ysbryd sanctaidd ledia'r ffordd Yn mysg gwyryfon Seion fry |
Let mention of pleasure cease evermore, Near and far; That I may drink pure waters, From a better fount. O close my eyes lest I see The base pleasures of the world, And I veer forever from Thy costly, precious paths. Forever rejoice, my soul, evermore, Thy spouse is thy God; Greater is the merit of a mortal wound, Than sin of any kind. I shall ask for no merit any more, nor strength, Nor the favour of anyone, nor his peace, But him alone who shall raise my dust, Alive up from the grave. - - - - - I would cease to mention pleasure any more, Near and far; As long as I could get to drink pure waters, From a much better fount. Let day cease, let night cease, Like the small minute of an hour; As long as I get to love and lean, On the breast of my great Lord. I sat under his shade, And his fruit was very sweet; And here I would spend the days of my age, Forever and ever very happy. And like the fruit of the sweet apples, In the midst of the trees of the wood; Thus my Beloved himself amongst The sons who are getting praise. My Beloved is like a beautiful lily, The most delightful ever his colour; And who beats the flowers of the world, The chief posies of their kind.tr. 2016 Richard B Gillion |
|