Deffrown, deffrown, a rhown fawrhad Cyn toriad dydd, I ddwyfol Aer y nefol wlad, Croesawiad sydd; Fe ganodd sêr y bore'r byd, Sef holl angylion Duw ynghyd, Fe ganodd y Proffwydi i gyd, Heb fod yn gau; A pham na chanwn ninnau'n un Am gael Jehofa mawr ei hun Mewn dull fel dyn ac ar ein llun I'n gwir wellhau. O ryfedd rad y cariad cu A ddarfu ddwyn I'n plith y Meddyg, Iesu mad, Samariad mwyn; Gadawodd orsedd nefol wlad, Ei 'wyllys oedd er ein lleshad, I lawr y daeth o lys ei Dad I'n hisel dir; O'n natur lesg cymerodd ran, Bu iddo 'ymostwng ym mhob man, Mewn beudy'n wael, mewn byd yn wan, Bu'n bod yn wir. Ond er ei waelder ar y llawr Mae'n fawr yn fodd; Mae pob trysorau dan ei sêl Goruchel rodd; Mae'n Hollgyfoethog enwog un, Yn gadarn Dwr i gadw dyn, Mae pob cyflawnder ynddo'i hun I Adda a'i hâd; Mae'n fywyd meirwon i ail fyw Mae'n Feddyg llon i'r fron sy'n friw, Gwisg lawn i'r noeth, a chyfan yw A chyfiawnhad. Bechadur, heddiw gwêl dy le, Gad gael dy lais; Am gael i'th fynwes Frenin ne' Pob cyfle cais. Paham yn drist y safwn draw? Efe yw'n braich rhag ofn a braw; Mae'n derbyn ato bawb a ddaw Â'i law ar led. Dim cariad mwy na hwn nid oes, Ac ni bu 'rioed mewn neb rhyw oes; Ei fywyd roes ar bren y groes Dros bawb a gred. Mae eto'n dod; yn barod bôm Tra byddom byw, I ymgyfarfod mewn gwir ffydd Bob dydd â'n Duw. Rhown gyfrif o'r orchwyliaeth hon, Ni thâl esgusion ger ei fron; Mae'n adwaen gwraidd y galon gron Mewn golwg rhydd. O am ein caffael ynddo fe Fel gogoneddus blant y ne'; Bydd llon ein lle ar ei law dde Pan ddêl ei ddydd.Robert Davies (Bardd Nantglyn) 1769-1835 Tôn [84.84.8884.8884]: Trymder (Cainc Werin) |
Let us awake, awake, and let us give praise Before the break of day, To the divine heir of the heavenly country A welcome there is; The stars of the morn of the world sang, That is, all the angels of God together, All the Prophets sang, Without being false; And why should we not sing as one About getting great Jehovah himself In manner like man and in his image Truly to heal us. O gracious wonder of the dear love Which ceased to bring Into our midst the Physician, esteemed Jesus, A good Samaritan; He left the throne of a heavenly country, His will was to relieve us, Down he came from his Father's court To our lowly land; Of our feeble nature he took a share, There was to him submission in every place, Lowly in a cowshed, weak in a world, He was truly being. But despite his lowliness on earth He is great in will; Every treasure is under his seal A supreme gift; He is an Omnipotent famous one, A strong Tower to preserve man, Every fulness is in him himself For Adam and his seed; He is life for the dead to live again He is cheerful Physician to the wounded breast, Full and complete clothing to the naked he is, And righteousness. Sinner, today see the place, Let thy voice be heard; For getting to the King of heaven's bosom Every opportunity of request. Why sadly dost thou stand yonder? He is an arm against fear and terror; He receives to himself all who come With his hand open. No greater love than this there is, And never was in any kind of age; His life he gave on the wood of the cross For all who believe. He is coming again, ready may we be While ever we live, To meet together in true faith Every day with our God. Let us give an account of this duty, Nor offer excuses before him; He knows the root of the round heart In a free view. O that we be found in him Like the glorious children of heaven; Our place shall be cheerful at his right hand When his day comes.tr. 2015,23 Richard B Gillion |
|