Dewch bawb sy'n caru Iesu mawr Yn awr i feysydd Bethlem; Cawn glywed lleisiau'r nefol gôr I'r Iôr yn seinio'u hanthem. Dyrchafwn glodydd gyda hwy, Ond llawer mwy bo'n moliant; Am roi i'r ddaear Geidwad gwiw, I Dduw y bo'r gogoniant. Cawn weld ein Harglwydd yn y crud A doethion byd yn plygu; Adwaenant ynddo Frenin Nef A'i seren Ef yn t'wynnu. Ymgrymwn ninnau oll i lawr Am rodd mor fawr i ddynion; Tangnefedd ar y ddaear fydd, A bywyd rhydd i'r caethion. O'r preseb tlawd i fryn y Groes, Drwy lawer loes y cerddodd; Ac yno, dan y gwawd a'r cur, Ei fywyd pur a roddodd; Ni bu erioed ryfeddod mwy Na'r dwyfol ddarostyngiad; Caed cymod trwy yr aberth drud, Daeth byd i freichiau cariad.D J Morgan 1876-1950 Tôn [MSD 8787D]: Stettin (Geistliche Lieder 1539) |
Come all who love great Jesus Now to the fields of Bethlehem; We may hear the heavenly choir's voices To the Lord sounding their anthem. Let us raise praises with them, But much greater be our praise; For giving to the earth a worthy Saviour, To God be the glory. We may see our Lord in the cradle And the world's wise ones bowing; They recognize in him the King of heaven And his star shining. Let us too bow down For such a great gift to men; Peach on the earth shall be, And free life for the captives. From the poor manger to the hill of the cross, Through many a pang he walked; And there, under the scorn and the pain, His pure life he gave; There never was a greater wonder Than the divine abasement; Reconciliation is had through the costly sacrifice, A world came to the arms of love.tr. 2021 Richard B Gillion |
|