Di Arglwydd nef a daear (Sy'n dal pob peth ynghyd)

(Dros Rai yn Teithio yn yr Awyr)
Di Arglwydd, nef a daear,
  Sy'n dal pob peth ynghyd,
O! gwrando ein herfyniau
  Dros bawb dryw'r llydan fyd
Sy'n marchog y cymylau
  Yn entrych dorau'r wawr,
Ar lwybrau glân dyletswydd, -
  O! cadw hwynt bob awr.

Dy rymus fraich anfeidrol
  Fo tanynt ar eu taith,
Yn nwyfre ansylweddol
  Yr eangderau maith;
Pan dorro yn y gwagle
  Ryferthwy'r storom fawr,
Mewn blinder ac enbydrwydd, -
  O! cadw hwynt bob awr.
Arthur Simon Thomas (Anellydd) 1865-1935

Tôn [7676D]: Meirionnydd (William Lloyd 1786-1852)

(For Those Travelling in the Air)
Thou Lord, of heaven and earth,
  Who art holding everything together,
O listen to our pleadings
  For those throughout the wide world
Who are riding the clouds
  In the vault of the doors of the dawn,
On the holy paths of duty, -
  O keep them every hour.

Thy infinite strong arm
  Be under them on their journey,
In the insubstantial atmosphere
  In the vast expanses;
When in the empty space, the tempest
  Of the great storm breaks,
In distress and danger, -
  O keep them every hour.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~