Digon mewn llifeiriant dyfroedd

(Cymdeithas â'i ddyoddefiadau Ef)
Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
  Digon yn y fflamau tân;
O! am nerth i lynu wrtho,
  A phara byth yn ddiwahân;
Ar dd'ryslyd lwybrau tir Arabia,
  Lle mae gelynion fwy na rhi',
Rho gymdeithas dioddefiadau
  Gwerthfawr angeu Calfari.

Pan fo'm enaid fwyaf gwresog,
   Yn danllyd garu fwyaf byw,
Mae'r pryd hyny'n fyr o gyrhaedd
  Perffaith sanctaidd gyfraith Duw:
O! am nerth i'w hanrhydeddu,
  Trwy dderbyn iachawdwriaeth rhad,
A'r cymmundeb mwyaf diddig,
  Yn hyfryd felys, yn y gwaed.

Mae híraeth arnaf am ymadael,
  Bob dydd ar y gwaedlyd faes,
Nid â'r arch nac Israel dirion,
  Ond â'm hunan-ymchwydd câs;
Cael dod yn hy' at fwrdd y Brenin,
  A'm gwahodd yno i eiste'n uwch,
Minnau'n para'n wan ac eiddil,
  A byth am garu yn y llwch.

             - - - - -
              1,(2),3.

Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
  Digon yn y fflamau tân;
O am nerth i lynu wrtho,
  Para byth yn ddi wahan;
Ar groes-lwybrau tir Arabia,
  Lle mae 'speilwyr fwy na rhi'
Rho gymdeithas dyoddefiadau
  Gwerthfawr angau Calfari.

Pan fo'm enaid fwyaf gwresog,
   Ac yn caru fwyaf byw,
Mae'r pryd hyny'n fyr o gyrhaedd
  Perffaith sanctaidd gyfraith Duw:
O am nerth i'w hanrhydeddu,
  Trwy gofleidio cymmod rhad,
A chymundeb mwyaf diddig,
  Hyfryd felys, yn y gwaed.

Híraeth sy arnaf am ymadael,
  Bob dydd ar y gwaedlyd faes,
Nid â'r arch nac Israel dirion,
  Ond â'm hunan-ymchwydd cas;
A chael dod at fwrdd y Brenin,
  A'm gwahodd yno i eiste'n uwch,
Minnau'n para'n wan ac eiddil,
  Byth am garu yn y llwch.
Ann Griffiths 1776-1805

Tonau [8787D]:
Carlisle87 (<1825)
Dolwar (John Roberts 1822-77)
Moriah (Martin Madan 1725-90)

gwelir:
  Deffro Arglwydd gwna rymuster
  O'm blaen mi welaf ddrws agored
  Pan esgynodd 'r hwn ddisgynodd

(The Fellowship of his Sufferings)

Sufficient in streaming waters,
  Sufficien in the flames of fire;
O for strength to stick to him,
  And continue forever inseparably;
On the land of Arabia's troublesome paths,
  Where there are enemies more than number,
Grant the fellowship of the sufferings
  Of the precious death of Calvary.

When my soul be warmest,
  Loving fierily most alive,
That time is short of reaching
  The perfect sacred law of God:
O for strength to honour it,
  Through receiving free salvation,
And the most placid communion,
  Delightfully sweet, in the blood.

I have a longing to depart,
  Every day the bloody field,
The ark of tender Israel only
  Takes my detestable conceit;
To get to come boldly to the King's table,
  And be invited there to sit above,
While I remain weak and feeble,
  And forever want to love in the dust.

                 - - - - -


Sufficient in streaming waters,
  Sufficient in the flames of fire;
O for strength to stick to him,
  To remain forever undivided;
On the land of Arabia's adverse paths,
  Where the predators are more than number,
Grant the fellowship of the sufferings
  Of the precious death of Calvary.

When my soul be warmest,
  And loving most alive,
That time is short of reaching
  The perfect sacred law of God:
O for strength to honour it,
  Through embracing free reconciliation,
And the most placid communion,
  Delightfully sweet, in his blood.

I have a longing to depart,
  Every day the bloody field,
The ark of tender Israel only
  Takes my detestable conceit;
And get to come to the King's table,
  And be invited them to sit above,
While I remain weak and feeble,
  Forever wanting to love in the dust.

tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~