'D oes bleser dâl o dan y ne'
'Does bleser dâl tu yma i'r ne'

(Duw a dygon)
'D oes bleser dâl
    o dan y ne',
Nac un dyddanwch,
    geidw le
  Cymdeithas fy Iachawdwr cun:
'D oes eisieu dim lle bo fy Nuw,
Gwagder, na thlodi o un rhyw,
  Mae'n llanw'r nefoedd fawr ei hun.

Y sawl a'th gaffo gwyn fyd hwy,
Nis gallant fyth ddymuno mwy,
  Ti lenwi eu heisieu
      oll yn llon;
Mae môr a thir, a da a dyn,
Oll yn dy heddwch di dy hun,
  A mwy nag fedd y ddaear hon.

Angenus wyf, bechadur gwàn,
Am hyn 'rwy'n tỳnu tua'r làn,
  Yn gweled digon gan fy Nuw;
Trysorau, pe cawn eu mwynhau,
A laddai 'ngofid, laddai 'ngwae,
  Ac a'm gwnai'n llawen tra f'wyf byw.

              - - - - -

'Does bleser dâl
    tu yma i'r ne',
Nac un dyddanwch yn dy le,
  A leinw'm dymuniadau'n un:
'Does eisieu dim lle b'o fy Nuw,
Gwagder a thlodi o unrhyw,
  Mae'n llanw'r nefoedd fawr ei hun.

Y sawl a'th gaffont gwynfyd hwy,
Ni allant byth ddymuno mwy,
  Ti lenwi'u heisieu
      oll yn llon;
Mae môr a thir, a da a dyn,
Oll yn dy heddwch di dy hun,
  A mwy nag fedd y ddaear hon.

Angenus wyf, bechadur gwan,
Am hyn 'rwy'n tnu tu a'r lan,
  Yn gweled digon gan fy Nuw;
Trysorau, pe cawn eu mwynhau,
A laddai'm gofid, laddai'm gwae,
  Ac a'm gwnai'n llawen tra fawn byw.
lenwi'u heisieu oll :: lenwi'n heisieu oll

William Williams 1717-91

Tonau [888.888]:
Martin's Lane (<1825)
Old 113th (Matthäus Greiter 1500-50)
Rhosyn Saron (alaw Gymreig)
St Paul's (John Goss 1800-80)

(God will suffice)
There is no pleasure under
    heaven which holds,
A single interest,
    which will keep the place
  Of the company of my dear Saviour:
There is no need at all where my God is,
Emptiness, nor poverty of any kind,
  He fills the great heavens himself.

Those who have thee, blessed are they,
They can never want any more,
  Thou wilt fulfil all
      their needs readily;
Sea and Land, and beast and man, are
All in thy own peace,
  And more than this earth possesses.

I am needy, a weak sinner,
Therefore I am drawing upwards,
  Seeing sufficient from my God;
Treasures, if I could get to enjoy them,
Which would destroy cares, destroy woe,
  And would make me joyful while I live.

               - - - - -

There is no pleasure this side
    of heaven which holds,
A single interest in thy place,
  Which fulfils all my wishes alike:
There is no need at all where my God is,
Emptiness and poverty of any kind,
  He fills the great heavens himself.

Those who have thee, blessed are they,
They can never want any more,
  Thou wilt fulfil all
      their needs readily;
Sea and Land, and beast and man, are
All in thy own peace,
  And more than this earth possesses.

I am needy, a weak sinner,
Therefore I am drawing upwards,
  Seeing sufficient from my God;
Treasures, if I could get to enjoy them,
Which would destroy cares, destroy woe,
  And would make me joyful while I live.
wilt fulfil all their needs :: wilt fulfil all our needs

tr. 2014 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~