'Does dim o gylch yr awyr fry, Neu ynte oddeutu'r ddaear ddu; Dim, f'enaid, dim a leinw ddyn, Neu dâl ei garu ond Duw ei hun. Wrth droi fy ngolwg yma'n awr, I gyrau'r greadigaeth fawr, Gwrthddrych ni wel fy enaid gwan Ond Iesu i bwyso arno'n rhan. Pa'm cara'i'r byd a'i wagedd mwy, Hyd angeu'n brin y deuant hwy; Gwell i mi garu'r ffrynd a ddaw Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw. Darfydded caru tref a gwlad, Na brawd, na phriod, mam na thad; 'Does neb a welwyd is y rhod Ond Iesu dâl ei garu erioed. Cael profi'i hedd a'i fywiol ras Yw'r nefoedd ar y ddaear las; A'm nefoedd byth yn nef y nef Fydd edrych yn ei wyneb Ef.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Beth dâl im' roi fy serch a'm bryd? Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn Ond ofer ceisio gwynfyd llawn Wrth droi fy ngolwg yma'i lawr |
There is nothing around the sky above, Or about the black earth either; Nothing, my soul, nothing shall fill man, Or hold his loving but God himself. Turning my gaze here now, To te corners of the great creation, My weak soul sees no object But Jesus to lean on as my portion. Why shall I love the world and its vanity any more, They shall hardly come as far as death; It is better for me to love the friend who shall come In death to seize my hand. Pass away shall loving home and land, Or brother, or spouse, mother or father; No-one has been seen under the sky But Jesus shall always continue to be loved. To get to experience his peace and his lively grace Is heaven on the blue-green earth; And my heaven forever in the heaven of heaven Who shall look on his face.tr. 2020 Richard B Gillion |
|