'Does genyf noddfa mewn un lle, Torais gyfreithiau Brenin ne'; Wrth natur yn andwyol un, A gelyn wyf i Dduw ei hun! Gwrthodais a di'styrais i, O Arglwydd dy alwadau di; P'le tro'f fy ngwyneb adyn gwael, Nid oes lonyddwch im' i'w gael. Ond clwyaf lef o Galfari, Yn d'wedyd tyred attaf fi; Mae genyf bob peth it' i'w gael, Nag ofna ddim bechadur gwael. Wel Iesu syrthiaf wrth dy draed, Ac ymddiriedaf yn dy waed; Canlynaf, caraf di o hyd, Can's wele aethost â'm holl fryd.Caniadau Bethel (Cas. Evan Edwards) 1840 [Mesur: MH 8888] |
I have no refuge anywhere, I broke the laws of the King of heaven; By nature a ruined one, And an enemy I am to God himself! I refused and I disregarded, O Lord, thy calls; Wherever I, a poor wretch, turn my face, There is no peace for me to get. But I hear a cry from Calvary, Saying, "Come to me;" I have everything for you to get, Do not fear anything, poor sinner. See, Jesus, I fall at thy feet, And I trust in thy blood; I shall follow, love thee always, Since see, thou hast taken my whole mind.tr. 2022 Richard B Gillion |
|