'Does neb all gydymdeimlo mwy, A phlant na'r Iesu mwyn, Pob baich roi'r ar eu 'sgwyddau hwy, Mae'r Iesu wedi'i ddwyn. Bu'n faban bychan fel myfi, Bu'n cysgu ar lin ei fam; Bu'n llechu yn ei mynwes gu, Mewn arswyd rhag cael cam. Bu'n d'rysu gyda gwersi maith, Bu'n dysgu geiriau Duw. Bu yn llafurio gyda'i waith, Do, er cael modd i fyw. Fe wyr am holl helyntion plant, Bu'n blentyn bach ei hun. Gwyr am bob poen ac am bob chwant All gwrdd a'r lleiaf un. Pe yn newynog neu yn dlawd, Neu mewn adfydion blin; Mae'n cydymdeimlo megis brawd, Bu'r Iesu felly'i hun. Mae'i galon yn cydguro'n awr, Er byw yn nghanol nef, A holl galonau plant y llawr, Sy'n ceisio'i ddilyn Ef.Eleazar Roberts 1825-1912 Y Delyn Aur 1868
Tôn [MCD 8686D]: 'Does Neb All Gydymdeimlo Mwy |
No-one can sympathise more With children than gentle Jesus, Every burden put upon their shoulders, Jesus has borne. He was a little baby like me, He slept on his mother's knee; He hid in her dear bosom, In horror lest he get hurt. He was confused by long lessons, He learned the words of God. He laboured at his work, Yes, in order to earn a living. He knows about all the troubles of children, He was a little child himself. He knows about every pain and about every desire That can meet with the least one. If hungry or poor, Or in grievious adversities; He is sympathising like a brother, Jesus was like that himself. His heart beats together now, Although he lives in heaven's centre, With all the hearts of children below, Who are seeking to follow him.tr. 2023 Richard B Gillion |
|