Dros y moroedd 'r ŷm yn hwylio A'n hŵynebau tua'r wlad, Lle bydd inni'n ddiogel lanio Yng nghymdeithas bur ein Tad: Cwmni'r Iesu dry yn llon Holl ofidiau'r fordaith hon. Hafan deg a gynau gwynion Ddaw i'r golwg yn y man; Yno llu o'n hen gyfeillion Sy'n ein haros ar y lan: Sŵn eu mawl ar draws y lli Ddena gwrs ein bywyd ni. Wedi cyrraedd bro goleuni, Melys weithian fydd ein cān; Creithiau pechod wedi'u codi, Ninnau yn dragwyddol lān; Yna canwn iddo Ef Anthem cariad plant y nef."J Jones (Talog), Dowlais." Y Llawlyfr Moliant Newydd 1955-74
(Mordaith bywyd) Dros y moroedd 'rwyf yn hwylio A fy wyneb tua'r wlad, Lle mae'r seintiau wedi glanio Am gymdeithas Tŷ eu Tād, Cwmni'r Iesu dry yn llon Holl ofidiau'r fordaith hon. Hafan deg, a gynau gwynion Ddaw i'r golwg yn y man. Lle mae llawer o'm cyfeillion Yn fy aros ar y lan, Sŵn eu mawl ar draws y lli Ddena gwrs fy mywyd i. Wedi cyrraedd bro goleuni, Melys weithian fydd fy nghān, Creithiau pechod wedi'u codi, Minnau yn dragwyddol lān; Yna bloeddiaf Iddo Ef Anthem cariad plant y nef."Mr Talog Williams, Swansea." Llawlyfr Moliant 1930
Tonau [87.87.77]: |
Over the seas we are sailing With out faces toward the land, Where we shall be landing safely In the pure fellowship of our Father: The company of Jesus shall turn joyful All the griefs of this voyage. A fair havan and white robes Shall come into view in a while; Thre a host of our old companions Are waiting for us on the shore: The sound of their praise across the flood Attracts the course of our life. Having reached the vale of lights, Sweet henceforth shall be our song; The scars of sin having been lifted, And we eternally holy; There we shall sing unto Him The anthem of the love of the children of heaven.
(The voyage of life) Over the seas I am sailing With my face toward the land, Where the saints have landed For the fellowship of their Father's house. The company of Jesus shall turn joyful All the griefs of his voyage. A fair haven, and white robes Shall come into view in a while. Where there are many of my companions Waiting for me on the shore, The sound of their praise across the flood Attacts the course of my life. Having reached the vale of lights, Sweet henceforth shall be my song, The scars of sin having been lifted, And I eternally holy; Then I shall shout Unto Him The anthem of the love# of the children of heaven.tr. 2024 Richard B Gillion |
|