1,(2,(3,4),5). Duw anfeidrol yw dy enw, Llanw'r nefoedd, llanw'r llawr, Mae dy lwybrau'n anweledig Yn nyfnderoedd moroedd mawr: Dy feddyliau - Is nag uffern, uwch na'r nef! Minnau'n ddyfal sy'n ymofyn Ar yr aswy, ar y dde, Ceisio canfod dwfwn gyngor, A dybenion Brenin ne'; Hyn a ffeindiais - Mai daioni yw oll i mi. Pan bwyf dan y tonau mawrion, A'r llifeiriant yn ei rym, Dae'r ac uffern gyda'u gilydd Am fy nghuro i lawr i ddim, Af dan grynu, Ymaflaf yn addewid nef. Diben nefoedd sydd yn gywir, Bynag peth yw diben dyn; Mi anturiaf fy holl fywyd Ar ei eiriau ef ei hun: Doed pob cystudd, Ddigwydd dim ond da i mi. Da yw'r groes, a da yw'r gwasgfa, Da yw temtasiynau llym, Oll i'm tynnu o'r creadur, O fy haeddiant, o fy ngrym; Minnau'r truan, Ffo'f dan aden Brenin nef. - - - - - 1,2,4; 1,3,4. Duw anfeidrol yw dy enw, Llanw'r nefoedd, llanw'r llawr Ac mae'th lwybrau anweledig Yn nyfderoedd moroedd mawr: Mae'th feddyliau 'N îs nag uffern, uwch na'r nef. D'wed a ellir nesu atat, D'wed a ellir dy fwynhau, Heb un gorchudd ar dy wyneb, Nag un gwg i'm llwfrhau; Dyna'r nefoedd, Wyf am gael tu yma'r bedd. Minnau'n ddyfal sy'n ymofyn Ar yr aswy, ar y dde, Ceisio canfod dwfn gynghor, A dybenion Brenin ne'; Hyn a gefais, Mai daioni yw oll i mi. Dyben nefoedd sydd yn gywir, Bynag beth yw dyben dyn; Mi anturiaf fy holl fywyd Ar ei eiriau Ef ei hun: Doed pob cystudd, Ddygwydd dim ond da i mi. - - - - - 1,2,(3,4,5). Duw anfeidrol yw Dy enw, Llanw'r nefoedd, llanw'r llawr; Ac mae'th lwybrau anweledig Yn nyfnderoedd moroedd mawr: Mae'th feddyliau, 'N îs nag uffern, uwch na'r nef. Er dy fod yn uwchder nefoedd, Uwch cyrhaeddiad meddwl dyn, Etto mae'th gre'duriaid lleiaf Yn Dy olwg bob yr un; Nid oes meddwl, Nad yw'n oleu o dy flaen. Rhyfedd, Arglwydd, yw'th ddoethineb! Rhyfedd, Arglwydd, yw dy rym! Nid oes îs y nef gwmpasog All dy wrthwynebu ddim: Try'r greadigaeth, Ol a gwrthol, wrth dy air. D'air a wnaeth y moroedd helaeth, D'air a wnaeth y ddaear fawr, D'air a greodd lu'r ffurfafen Sydd yn hongian uwch y llawr: 'Mysg a greaist, 'Does gyffelyb i Ti dy hun. Bywyd perffaith yw'th gymdeithas, Diliau mel yw'th heddwch drud: Gwerthfawrocach yw dy gariad, Na holl berlau'r India i gyd: Gwlad o gyfoeth Yw yn unig dy fwynhau.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Boed fy mywyd oll yn ddiolch Chwilio am danat addfwyn Arglwydd Doed dy heddwch pryd y delo Dyma Geidwad i'r colledig Er dy fod yn uchder nefoedd Fy nymuniad paid â gorffwys O sancteiddia f'enaid Arglwydd Wrth dy orsedd 'r wyf yn gorwedd |
Infinite God is thy name, Filling the heavens, filling the earth; Thy paths are unseen In the depths of great seas: Thy thoughts - Lower than hell, higher than heaven! I persistently am asking On the left, on the right, Trying to find the deep counsel, And the purposes of the King of heaven; This I have found - That everything is good for me. When I am under the great waves, And the flood in its force, Earth and hell together Wanting to beat me down to nothing, I shall go trembling, I shall take hold of heaven's promise. The purpose heaven is true, Whatever is the purpose of man; I shall venture all my life On his own words: Let every affliction come, Only good shall happen to me. Good is the cross, and good are the straits, God is sharp temptation, All to draw me from the creature, From my virtue, from my strength; I the wretch, Shall flee under the wing of the King of heaven. - - - - - Infinite God is thy name, Filling heaven, filling the earth And thy unseen paths are In the depths of the great seas: Thy thoughts are Lower than hell, higher than heaven. Tell whether one can draw near to thee, Tell whether one can enjoy thee, Without any covering over thy face, Nor any frown to dishearten me; That is the heaven I want to get this side of the grave. I persistently am asking On the left, on the right, Trying to find the deep counsel, And the purposes of the King of heaven; This I have found - That everything is good for me. The purpose of heaven is true, Whatever is the purpose of man; I will venture my whole life On His own words: Let every affliction come, Nothing will happen but good to me. - - - - - Infinite God is Thy name, Filling the heavens, filling the earth; And thy invisible paths are In the depths of the great seas: Thy thoughts are, Lower than hell, higher than heaven. Although thou art in the height of heaven, Above the reach of the thought of man, Still thy least creatures are I in Thy sight every one; There is no thought That is not light before Thee. Wonderful, Lord, is thy wisdom! Wonderful, Lord, is thy power! There is nothing in all-encompassing heaven That can withstand thee at all: The creation Turns back at thy word. Thy word made the vast seas, Thy word make the great earth, Thy word created the host of the firmament That are hanging above the earth below: Amongst what thou hast created Is nothing similar to thee thyself. Perfect life is thy company, Honeycombs is thy precious peace: More valuable is thy love, Than all the pearls of India altogether: A land of wealth Is to enjoy thee alone.tr. 2015,21 Richard B Gillion |
|