Duw sydd imi'n Fugail hynod

(Salm 23)
Duw sydd imi'n Fugail hynod,
  Ni chaf wybod eisiau dim;
Wele'i gariad a'i ddoethineb
  Er buddioldeb a lles im.
Yn mhorfeydd ei ordinhadau,
  Ac wrth ffrydiau dyroedd nef,
Yn hyfrydlon par i'm orwedd,
  Mewn tangnefedd gydag Ef.

Ef a'm harwain yn ei lwybrau,
  O'm crwydriadau fe a'm dwg;
Yn ei ffyrdd, er mwyn ei enw,
  Fe a'm ceidw rhag pob drwg;
A phe rhodiwn ar hyd waelod
  Glyn dan gysgod angau du,
Nid oes achos i mi ofni,
  Caf oleuni fy Nuw cu.

Dan deyrnwialen ei frenhiniaeth,
  Iachawdwriaeth fydd fy nghân;
Bugail imi fydd yn angau,
  Trwy effeithia'r Ysbryd Glân:
Ger bron wyneb fy ngelynion,
  Bwrdd danteithion wnaeth i me;
Ces oes hyfryd o fendithion,
  A chysuron yn ddi-ri'.

Credu'r wyf na phall i'm brofi
  'R un daioni gan fy Nuw,
Na'i drugaredd i'm cysuro,
  Tra 'rwy'n rhodio
      tir y byw.
Cyn pen hir yr wy'n gobeithio
  Caf breswylio
      llys y nef,
A chyd-dreulio tragwyddoldeb
  Mewn cymundeb gydag Ef.

           - - - - -

Duw sydd imi'n Fugail hynod,
  Ni chaf wybod eisiau dim;
Wele'i gariad a'i ddoethineb
  Er buddioldeb hyfryd im':
Yn mhorfeydd ei ordinhadau,
  Ac wrth ffrydiau dyroedd byw,
Yn hyfrydlon pâr i'm orwedd,
  Mewn tangnefedd gyda'm Duw.

Fe a'm harwain yn ei lwybrau,
  O'm crwydriadau Fe a'm dwg,
Yn ei ffyrdd, er mwyn ei enw,
  Fe a'm ceidw rhag pob drwg;
A phe rhodiwn ar hyd waelod
  Glyn dan gysgod angau du;
Nid oes achos imi ofni,
  Caf oleuni oddi fry.

Credu 'r wyf na phall i'm brofi
  'R un daioni gan fy Nuw,
Na'i drugaredd i'm cysuro,
  Tra bwy'n rhodio
      tir y byw;
Cyn bo hir 'r wyf yn gobeithio
  Caf breswylio
      llys y nef,
A chyd-dreulio tragwyddoldeb
  Mewn cymmundeb gyd ag Ef.
N.M.
Cylchgrawn Cymru, rhif iv (1815).

[Mesur: 8787D]

(Psalm 23)
God is to me a notable Shepherd,
  I shall get to know no need of anything;
See his love and his wisdom
  For benefit and profit to me.
In the pastures of his ordinances,
  And by streams of the waters of heaven,
Cheerfully he causes me to lie,
  In tranquility with him.

He leads me in his paths,
  From my wanderings he draws m;
In his ways, for his name's sake,
  He will keep me from every evil;
And if I were to walk along the bottom
  Of a vale under black death's shadow,
There is no cause for me to fear,
  I shall get the light of my dear God.

Under the sceptre of his kingship,
  Salvation shall be my song;
A Shepherd to me he shall be in death,
  Through the effects of the Holy Spirit:
Before the face of my enemies,
  A table of delicacies he made for me;
I got a delightful age of blessings,
  And comforts without number.

I believe I shall not fail to experience
  A single goodness from my God,
Or his mercy to comfort me,
  While ever I am walking
      the land of the living.
Before long, I am hoping,
  I shall get to reside
      in the court of heaven,
And spend an eternity
  In community together with him.

                - - - - -

God is to me a notable Shepherd,
  I shall get to know no need of anything;
See his love and his wisdom
  For delightful benefit to me:
In the pastures of his ordinances,
  And by the streams of living waters,
Joyfully he will cause me to lie,
  In tranquility with my God.

He leads me in his paths,
  From my wanderings he will draw me,
Yn his ways, for his name's sake,
  He will keep me from all evil;
And if I were to walk along the bottom
  Of a vale under black death's shadow;
There is no cause for me to fear,
  I shall get light from above.

I believe I shall not fail to experience
  A single goodness from my God,
Or his mercy to comfort me,
  While I am walking
      the land of the living;
Before long, I am hoping,
  I shall get to reside
      in the court of heaven.
And spend an eternity
  In community together with him.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~