Duw wnaeth yr adar bach i gyd A'r blodau glân eu lliw; Maent yn eu hiaith yn dweud o hyd Mae cariad ydyw Duw. Mae Duw'n ein caru - dyna'n cân, Mae Duw'n ein caru ni; Os yw yn caru'r adar mân - Mae Duw'n ein caru ni. Ni syrth yr un aderyn to Heb gael ei sylw cu; Mae'n caru adar bach y fro - Mae Duw'n ein caru ni. Efe a liwia'r lili lân A ddeil mewn bythol fri; Fe gâr y rhos a'r blodau mân - Mae Duw'n ein caru ni. Gawn ninnau, fel y blodau pêr, Brydferthu llwybrau'r llawr? Llewyrchwn fel y lloer a'r sêr, Trwy rinwedd Iesu mawr.Thomas David Edwards 1874-1930 Tôn [MCD 8686D]: Llanddulas (<1962) |
God made all the little birds And the flowers with pretty colours; In their languages they always tell That God is love. God loves us - that is our song, God loves us; If he loves the little birds - God loves us. No house sparrow falls Without getting his dear notice; He loves the little birds of the vale - God loves us. 'Tis he who colours the pretty lily That he holds in everlasting renown; He loves the heath and the little flowers - God loves us. May we too, like the sweet flowers, Beautify the paths of the earth below? Let us shine like the moon and the stars, Through the merit of great Jesus.tr. 2021 Richard B Gillion |
|