Duw y cariad nad yw'n oeri Tad y gras nad yw'n lleihau, Trugarha a gwrando'n gweddi, Tyred atom i'n bywhau, Gwisg dy weision â'th daranau, Llosg â'th dân holl ddrygau'n hoes, Rho i ninnau fel ein tadau Brofi grymusterau'r groes. O tosturia wrth genhedlaeth Gyndyn, wamal, falch ei bryd Sy'n dirmygu'i hetifeddiaeth A dibrisio'i breintiau drud, Oes a giliodd o'th gynteddau Yn ei blys am fwyniant ffôl, Oes sy'n fyddar iawn ei chlustiau I'th alwadau ar ei hôl. Gwagedd yw pob bri a llwyddiant Lle ni byddo crefydd fyw, Ofer addysg a diwylliant Heb oleuni Ysbryd Duw: Arglwydd, dychwel ni i'r golau, Hen ac ieuainc, dychwel ni, Gwna i ninnau fel ein tadau Gerdded rhagom gyda thi.George Rees 1873-1950
Tonau [8787D]: |
God of the love that does not grow cold Father of the grace that does not wane, Have mercy and listen to our prayer, Come to us to enliven us, Dress thy servants with thy thunders, Burn with thy fire all the evils of our age, Grant to us as to our fathers To experience the powers of the cross. O show mercy to a generation Stubborn, fickle, with a proud air That is scorning its heritage And devaluing its precious privileges, An age that retreated from thy courts In its lust for foolish enjoyment, An age that has very deaf ears To thy calls after it. Vanity is all renown and success Where there be no living faith, Empty learning and industry Without the light of the Spirit of God: Lord, return us to the light, Old and young, return us, Make us too, like our fathers, Walk forward with thee.tr. 2021 Richard B Gillion |
|