Dy olau di, fy Nuw, Yn wyneb Iesu mawr Yw f'unig obaith mwy Ar dywyll ffyrdd y llawr; Y sêr a'm llywiai dro, Fe'u collais hwy i gyd O dan gymylau braw A'r niwl a guddiai'r byd. Dilynais lwybrau lu Wrth lamp fy neall gwan, A disgwyl gweled drwy Bob dryswch yn y man; Mi wn yn awr nad oes Oleuni ynof fi Ond digon i ddyheu Am ddydd dy gariad di. Fy ngweddi fo am gael Yr Iesu'n arglwydd im, Ac ef yn bopeth mwy A mi fy hun yn ddim, Yn ddim ond llusern frau O ddal ei olau ef, I'm tywys heibio i'r nos At fore claer y nef.T Eirug Davies 1892-1951
Tonau [6666D]: |
Thy light, my God, In the face of great Jesus Is my only hope evermore On the dark road of earth below; The stars that led me for a while, I lost them all Under clouds of terror And the fog that hid the world. I followed a host of paths By the lamp of my weak understanding, And expected to see through Every perplexity before long; I know now that there is no Light within me But sufficient to long For the day of thy love. May my prayer be for getting Jesus as my Lord, And he as everything evermore And I myself as nothing, As nothing but a fragile lantern To hold his light, To lead me beyond the night To the bright morning of heaven.tr. 2022 Richard B Gillion |
|