Dyma'r hen addewid hyfryd, A 'sigodd siol y sarph yn friw; Cawd trag'wyddol fuddugoliaeth Ar farwolaeth trwy Fab Duw: Ym mhob lo's ddydd a nos, Fy enaid cān am waed y gro's. O fy enaid gwel dy Feddyg, Yn archolledig yn dy le; Fy nhrag'wyddol feddyginiaeth Red o'i glwyfau mawrion e': O's ca' fyw rhyfedd yw, I drag'wyddoldeb gyda Duw. Er nad wyf ond eiddil heddyw, Gad im' roddi pwys fy mhen Ar y Cyfaill, heb dddiffygio, Sy'n fy nghofio uwch y nen; Ei glwyfau e' yw fy lle, Dyma'm noddfa fyth a'm ne'. P'odd y gallaf lai na chanu, Am rinweddol waed y groes; Dyma mywyd a fy iechyd, Sy'n pereiddio dyddiau 'oes: Digon yw i mi Dduw, Ym mhob cyflwr tra f'wyf byw.Morgan Rhys 1716-79 Golwg o Ben Nebo 1764 p.1: ? Dafydd Jones 1711-77 [Mesur: 8787337] gwelir: O na fyddwn ysbryd heddyw Wele cawsom y Messia |
Here is the delightful old promise, That struck and bruised the serpent's head; An eternal victory was got Over death through the Son of God: In every anguish, day and night, My soul shall sing about the blood of the cross. O my soul, see thy Physician, Wounded in thy place; My eternal medication Runs from his great wounds: If I get to live, wonderful it is, For an eternity with God. Although I am only feeble today, Let me lean my head On the Friend, without failing, Who remembers me above the sky; His wounds are my place, Here is my refuge forever and my heaven. How can I do any less than sing, About the virtuous blood of the cross? Here is my life and my health, Which sweeten the days of my age: Sufficient for me is God, In every condition while ever I live.tr. 2023 Richard B Gillion |
|