Capel yr Annibynwyr Gellimanwydd, Rhydaman, Hydref 1932.) Dyrchafwn ganiad newydd, O Arglwydd, ger dy fron Am dy amddiffyn grasol I'r demel annwyl hon: Deisyfwn unwaith eto Am olwg ar dy wedd Lle buost drwy'r blynyddoedd Yn rhoi o rin dy hedd. Bu'n tadau gynt yn dyfod O bellter bro a bryn I blygu mewn addoliad O fewn i'r muriau hyn: Datguddiaist iddynt drysor Dy gariad ar eu taith, Dod inni ffydd i'w canlyn Heb wyrni yn dy waith. Teyrnased dy dangnefedd Yn amlwg yma mwy, A rhwyma ein gobeithion Am Grist a'i groes a'i glwy': Dan wenau heulwen hawddfyd A gwg y chwerwaf chwyth Boed y golomen nefol Yn aros yma byth.David Rees Griffiths (Amanwy) 1882-1953
Tonau: |
the Independents' Chapel, Gellimanwy, Amanford, October 1932.) Let us raise a new song, O Lord, before thee, For thy gracious protection Over thy beloved temple: We beseech thee once again For a sight of thy countenance Where thou wast throughout the years Giving from the virtue of thy peace. Our fathers of old came From the distance of vale and hill To bow in adoration With these walls: Thou didst reveal to them the treasure Of thy love upon their journey, Give us too faith to follow them Without deviating in thy work. Let thy peace reign Evidently here evermore, And bind our hopes For Christ nd his cross and his wound: Under the the smiles of pleasant sunshine And the most bitter blast, May the heavenly dove Stay here forever. tr. 2024 Richard B Gillion |
|